Yr Amgylchedd

Gallai gwendidau yn y cynllun grantiau beryglu buddsoddiad mewn coetir

Nid oedd y gweithdrefnau ar gyfer adolygu ceisiadau yn ddigon cadarn, meddai'r Archwilydd Cyffredinol

17/08/2010

 PDF icon Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad - Comisiwn Coedwigaeth Cymru Arian Cyhoeddus Coetir Ffynone a Chilgwyn

Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg



Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn asesu a gafodd arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd i gefnogi cwmni cydweithredol i weithwyr yn Sir Benfro ei ddyfarnu'n ddiduedd. Mae hefyd yn ystyried a oedd grant Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn briodol ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad mewn ymateb i bryderon a gododd aelodau o'r cyhoedd gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Canfu'r adroddiad fod yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i'r cwmni cydweithredol i weithwyr, sef Calon yn Tyfu Cyf (Calon), yn bodloni amodau lefel uchel y cynllun grant. Ond nid oedd meini prawf na gweithdrefnau'r cynllun ar gyfer adolygu ceisiadau yn ddigon cadarn. Cynyddodd hyn y perygl na fyddai pobl yn y gymuned yn gallu cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch y defnydd a wneir o'r coetir ac na chaiff buddsoddiad ei ddiogelu, o bosibl, ar gyfer y pwrs cyhoeddus dros amser.

Cliciwch yma am y datganiad i'r wasg cyflawn

 

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>