Cyngor Bwrdeistref Sirol
01/10/2009
Astudiaeth ddichonoldeb ynni adnewyddadwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ym mis Hydref 2006 cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam seminar ar 'Ynni Adnewyddadwy mewn Tai' i staff o'r Cyngor a sefydliadau eraill. Fel rhan o'r seminar hon rhoddodd y cwmnïau masnachol adborth yn ymwneud â thri math o ynni adnewyddadwy: pympiau gwres o ffynhonnell ddaear; tyrbinau gwynt; a phaneli haul. Ar ôl y seminar, sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam weithgor gyda chynrychiolwyr o'r adran Dai a Diogelu'r Cyhoedd ac NEWI. Nod y grwp oedd asesu dichonoldeb gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy o'r fath mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi cynnal ymweliadau â safleoedd i asesu addasrwydd grwpiau o dai ar gyfer pob un o'r tair technoleg, ac mae Swyddog Effeithlonrwydd Ynni'r Cyngor wedi ceisio barn y tenantiaid o ran y gosodiadau perthnasol. Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig nodi tri grwp tebyg o eiddo a ddefnyddir fel grwpiau rheoli. Cyn y gosodiad rhaid i NEWI werthuso biliau cyfleustodau tenantiaid am y 12 mis blaenorol yn y grwpiau ynni adnewyddadwy a'r grwpiau rheoli.
Ar ôl gosod y technolegau adnewyddadwy, caiff y biliau tanwydd ar gyfer y cartrefi hyn eu monitro am 12 mis ochr yn ochr â rhai'r Grwp Rheoli. Ar ôl y cyfnod hwn o 12 mis bydd y ganolfan ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig NEWI yn cynnal Astudiaeth Economaidd-gymdeithasol ac archwilio materion megis costau gosod, cyfnodau ad-dalu, arbedion ariannol ac arbedion allyriadau, a barn y tenantiaid a'u profiadau o ddefnyddio'r systemau gwahanol.
Mae nifer y gosodiadau, ac felly nifer yr adeiladau sydd eu hangen ar gyfer y grwpiau rheoli, yn amodol ar yr arian sydd ar gael a'r grantiau a ddyfarnwyd. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ceisio arian gan Raglen Adeiladau Carbon Isel yr Adran Masnach a Diwydiant a chan gwmnïau cyfleustodau o dan ail gam y Cynllun EES.
Enw cyswllt: Bill Jones
Swydd: Prif Swyddog Ynni
Ffôn: 01978 297208
Ebost: bill.jones@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Gwefan: www.wrexham.gov.uk