Nwy Prydain
01/01/2008
Ym mis Tachwedd 2006, penderfynodd y cwmni ddatblygu rhaglen diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o leihau nifer a chostau digwyddiadau a gwella effeithlonrwydd tanwydd ei yrwyr. Gobeithiwyd hefyd y byddai hyrwyddo arferion gyrru diogel yn y gwaith yn ymestyn i yrru preifat.
Mae'r cyflenwr nwy a thrydan Nwy Prydain yn gweithredu tua 15,000 o gerbydau yn y DU. Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n gwario tua £7.7 miliwn y flwyddyn ar atgyweirio ei fflyd ar ôl damweiniau traffig ar y ffyrdd a £14 miliwn ar danwydd.
Ym mis Tachwedd 2006, penderfynodd y cwmni ddatblygu rhaglen diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o leihau nifer a chostau digwyddiadau a gwella effeithlonrwydd tanwydd ei yrwyr. Gobeithiwyd hefyd y byddai hyrwyddo arferion gyrru diogel yn y gwaith yn ymestyn i yrru preifat.
Mae'r cwmni wedi datblygu achos busnes pum mlynedd ar gyfer gwella diogelwch ei yrwyr a bydd y rhaglen yn costio tua £1.1 miliwn.
Mae'r rhaglen yn cynnwys y camau gweithredu canlynol:
Yn seiliedig ar ffigurau ceidwadol, awgryma'r cwmni mai dwy flynedd yn unig yw cyfnod ad-dalu'r rhaglen.
Rhwng 2005 a 2007 mae Nwy Prydain wedi lleihau nifer y gwrthdrawiadau y mae ei yrwyr yn rhan ohonynt 14.6 y cant ac wedi lleihau cyfanswm ei gostau yn sgîl digwyddiadau i ymhell dros £300,000.
Yn ogystal â'r gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd a gwelliannau ariannol, disgwylir i'r rhaglen hefyd helpu Nwy Prydain i leihau ei ôl-troed carbon drwy ddefnyddio cerbydau'n well a gyrru sy'n fwy effeithlon o ran tanwydd.
Enw cyswllt: Jon York
Swydd: Rheolwr Gweithrediadau Fflyd
Ffôn: 07979 566647
Ebost: jon.york@service.britgas.co.uk
Cyfeiriad: Millstream
Maidenhead Road
Windsor
Berkshire
SL4 5GD