Yr Amgylchedd

Gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau arian ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni

Cyngor Bro Morgannwg

01/03/2007

Nod Energy Kids yw codi ymwybyddiaeth plant o effaith defnydd gormodol o danwydd ffosil, a meithrin dealltwriaeth gynnar o'r defnydd cynaliadwy o ynni.

Efallai na fydd plant mewn sefyllfa i leihau'r defnydd o ynni domestig drwy newidiadau i adeiladwaith neu wasanaethau eu cartrefi. Fodd bynnag, mae Energy Kids yn gweithio ar y sail y gall plant, drwy newid eu hymddygiad eu hunain, weithredu fel llysgenhadon a lleihau'r defnydd o ynni (er enghraifft, drwy ddiffodd setiau teledu a chynnyrch trydanol arall ar ôl eu defnyddio).

Ar hyn o bryd mae'r cynllun ar waith yng Nghynghorau Dinas Casnewydd, Bro Morgannwg a Chaerdydd, a chaiff ei gyflawni drwy drefniadau partneriaeth rhwng y cyngor perthnasol ac Asiantaeth Ynni De-ddwyrain Cymru.

Mae staff yr asiantaeth yn rhoi cyflwyniad awr o hyd i blant ysgol rhwng saith ac 11 oed ac yn trafod y meysydd canlynol:

Caiff plant sy'n cymryd rhan hefyd eu hannog i gwblhau Gwiriad Ynni Cartref gyda'u rhieni. Ar ôl derbyn y rhain bydd yr Asiantaeth yn rhoi adroddiad i'r teulu yn nodi:

Wrth gysylltu'r plant a'u teuluoedd gyda ffynonellau ariannu megis y HEES, nod Energy Kids yw mynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r anfanteision cysylltiedig a brofir gan y plant hynny sy'n byw mewn tlodi tanwydd.

Cost y cynllun yw £98 a TAW am ddau gyflwyniad awr o hyd. Mae'r Asiantaeth Ynni yn gweithredu system disgownt o hyd at £50 yn dibynnu ar nifer y Gwiriadau Ynni Cartref sy'n deillio o'r cyflwyniadau. Penderfynodd Adran Dai Cyngor Dinas Casnewydd ddefnyddio rhan o'i chyllideb effeithlonrwydd ynni domestig i roi cymhorthdal llawn i'r cynllun ym mhob un o'i 40 o ysgolion yn y cyngor. Mae Bro Morgannwg yn rhoi cymhorthdal i'r 10 ysgol gyntaf sy'n gwneud cais i gymryd rhan yn y cynllun, ond rhaid i'r ysgolion sy'n weddill sy'n dymuno cymryd rhan ariannu'r cynllun yn uniongyrchol.

Enw cyswllt: Dean Partridge 
Swydd: Rheolwr Ynni 
Rhif ffôn: 01656 642862 
Ebost: partrde@bridgend.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Holton Road 
Y Barri
CF63 4RU  
Gwefan: www.valeways.org.uk