Addysg a sgiliau

Fel corff gwarchod gwario cyhoeddus Cymru, ein swydd ni yw i ddarparu sicrwydd fod y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus sydd yn cael eu gwario ar addysg a sgiliau, yn cael eu gwario yn wrthrychol.

Er mwyn helpu i wella darpariaeth addysg a sgiliau, rydym yn cyhoeddi adroddiadau annibynnol sydd yn argymell sut y gall awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad wella a darparu gwell wasanaethau addysg a chynnig gwerth am arian.

Yn y gorffennol, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar ariannu ysgolion, dysgu yn y gweithle a salwch staff mewn sefydliadau addysg bellach.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag arolygaethau eraill, megis Estyn, ac yn ymuno â'u timau er mwyn arolygu gwasanaethau addysg awdurdodau lleol.

Cyhoeddiadau a newyddion

Astudiaethau achos