Addysg a sgiliau

Defnyddio gwybodaeth a feincnodwyd i gymharu gwariant ar ysgolion arbennig â gwariant o'r fath mewn awdurdodau tebyg ac i lywio adolygiad o'r dyraniad cyllidebol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

01/01/2008

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd corff llywodraethu Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields o'r farn nad oedd cyllideb yr ysgol yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion, a bod diffyg eglurder i'r broses pennu cyllideb.

Mewn ymateb, comisiynwyd ymgynghorwyr annibynnol gan Gyngor Caerffili i gymharu cyfanswm ariannu'r ysgol yn 2008-09 â'r arian a ddyrannwyd i naw o ysgolion arbennig tebyg mewn cynghorau eraill. Mae saith o'r ysgolion hyn yng Nghymru, a dwy yn Lloegr; oll yn darparu ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac anhwylder ar y sbectrwm awtistig.

Defnyddiodd yr ymgynghorwyr y gost gyfartalog fesul disgybl fel y gwerth craidd i'w ddefnyddio i gymharu ysgolion yn yr ymarfer meincnodi hwn. Cyfrifwyd y gost gyfartalog fesul disgybl drwy ychwanegu:

Yna rhannwyd y cyfanswm hwn â nifer y disgyblion a oedd ar y gofrestr ar y pryd. Nid oedd arian sy'n gysylltiedig â grantiau wedi'i gynnwys yn y cyfrifiad.

Nododd yr ymgynghorwyr fod y lefel ariannu gyffredinol ar gyfer yr ysgol yn cymharu'n dda iawn â'r ysgolion eraill yng Nghymru a astudiwyd, a dim ond un o'r ysgolion yn Lloegr a oedd yn rhagori arni. Hefyd gwnaed argymhellion i helpu'r Cyngor i wella eglurder ac ymatebolrwydd y broses o bennu'r gyllideb. Yn enwedig, roeddent yn gadarn o blaid y gwaith i ddatblygu'r matrics asesu disgyblion.

Gan weithio'n agos â'r ysgol, gweithredodd y Cyngor yn gyflym ar argymhellion yr ymgynghorwyr drwy newid y fformiwla ar gyfer pennu cyllideb yr ysgol o 2009-10 ymlaen. Mae'r llywodraethwyr bellach yn hyderus bod y gyllideb ddirprwyedig yn deg ac yn ddigonol a bod y system newydd ar gyfer pennu cyfanswm yr arian yn briodol, yn dryloyw ac yn gallu ymateb i newidiadau o ran anghenion disgyblion dros amser. Yn gyfatebol, mae gan y Cyngor well sicrwydd bod y gyllideb gyffredinol wedi'i phennu ar y lefel cywir a'i bod yn cyflawni gwerth am arian.

Enw: Jacky Elias 
Ebost: ELIASJ@caerphilly.gov.uk
Cyfeiriad: Penallta House
Tredomen Park
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG