Addysg a sgiliau

Cynyddu gallu ysgolion prif ffrwd

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

03/02/2009

Mae'r Arolwg AAA Blynyddol yn Abertawe, yn ddull ar gyfer cyflwyno adnoddau yn uniongyrchol i ysgolion ar gyfer plant a enwyd sydd ag AAA ysgafn i gymedrol yn cynnwys dyslecsia, anawsterau dysgu cymedrol neu anawsterau ymddygiadol llai difrifol.

Mae'r dull hwn, ynghyd â mentrau fel y Fenter Ysgolion sy'n Ystyriol o Ddyslecsia, y strategaeth Lleferydd ac Iaith a'r strategaethau ADHD ac Awtistiaeth yn sicrhau:

Un enghraifft o'r dull hwn yw'r Fenter Ysgolion sy'n Ystyriol o Ddyslecsia, a sefydlwyd yn 1997 fel ymateb i gynnydd yn nifer y datganiadau a gyflwynwyd ar gyfer dyslecsia. Mae'r fenter yn ariannu ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg i hyfforddi athrawon a staff cymorth dysgu i gynorthwyo disgyblion â dyslecsia.

Mae'r hyfforddiant, a achredir gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain, yn galluogi ysgolion, drwy hunanwerthusiad ysgol gyfan a gynorthwyir, i gyflawni statws Ysgol sy'n Ystyriol o Ddyslecsia. Mae'r gwasanaeth addysg wedi datblygu'r meini prawf ar gyfer y statws hwn mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bobl broffesiynol, rhieni a phartïon eraill, yn cynnwys Cymdeithas Dyslecsia Prydain. Hyd yma, mae tua 150 o athrawon mewn 98% o ysgolion wedi'u hyfforddi drwy'r rhaglen.

Mae'r gwasanaeth addysg yn monitro ansawdd yr addysgu mewn ysgolion a ariennir ac yn hwyluso'r gwaith o rannu arfer da drwy gynadleddau, cyfarfodydd a chylchlythyrau. Addaswyd y model a ddefnyddiwyd ar gyfer ysgolion sy'n ystyriol o ddyslecsia i ddarparu cymorth i ysgolion gyda disgyblion ag awtistiaeth, ADHD ac anawsterau lleferydd ac iaith.

Enw cyswllt: Robin Brown 
Swydd: Pennaeth Cynhwysiant Addysgol 
Ffôn: 01792 636000 
Ebost: Robin.Brown@swansea.gov.uk 
Cyfeiriad: Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Sir
Oystermouth Road
Abertawe
SA1 3SN  
Gwefan: www.swansea.gov.uk