Addysg a sgiliau

Defnydd effeithlon o Gynorthwywyr Addysgu a gyflogir yn ganolog

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

03/02/2009

Caiff y tîm mawr o Gynorthwywyr Addysgu sy'n darparu lefel uchel o gymorth i ddisgyblion mewn dosbarthiadau prif ffrwd ei reoli'n dda gan yr awdurdod.

Mae rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr sy'n cynnig sefydlu, hyfforddiant cyffredinol ac arbenigol wedi bod ar waith ers peth amser. Y gwasanaeth addysg sy'n cydlynu'r rhaglen hon, ac mae'n arwain at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar Lefel 3. O ganlyniad, gall yr awdurdod gyfateb cronfa gynyddol gymwys o staff i anghenion disgyblion unigol ac ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Enw cyswllt: Lesley Wilson 
Swydd: Cydlynydd Cynorthwywyr Addysgu 
Ffôn: 01492 574000 
Ebost: Lesley.wilson@conwy.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU  
Gwefan: www.conwy.gov.uk