Rheolodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y risgiau'n dda yn ystod y gwaith adeiladu, ond nid ar ôl agor y Ganolfan, medd yr Archwilydd Cyffredinol
02/10/2008
![]() |
|
|
Cyfweliadau |
|
| |
Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg |
| |
Dogfennau arall |
Yn ystod y gwaith o adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru (CMC), gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru waith da ar y cyfan i reoli'r risgiau yr oedd yn eu hwynebu fel ariannwr allweddol. Ond, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, ni lwyddodd i reoli'r risgiau ar ôl i CMC agor. Dywed yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, nad oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hollol effro i'r risgiau tan fod CMC wedi mynd i drafferthion ariannol a gofyn am arian cyhoeddus ychwanegol. Costiodd y prosiect ychydig dros £109 miliwn (gweler nodiadau i olygyddion) ac roedd angen mwy o arian cyhoeddus nag a ddisgwylid yn wreiddiol.