Rydym yn gwneud llawer o waith tai fel rhan o'n harchwiliad o awdurdodau lleol.
Mae ein prosiectau yn cwmpasu pob agwedd ar dai, o ddigartrefedd a strategaeth dai, i ansawdd tai, gwasanaethau landlordiaid a thai'r sector preifat. Rydym hefyd yn cynnal prosiectau tai cenedlaethol sy'n edrych ar faterion fel digartrefedd a Safon Ansawdd Tai Cymru.