Rheoli arian

Cyngor Celfyddydau Cymru Cyfranogiad Cynulleidfaoedd

Cyngor Celfyddydau Cymru

01/01/2008

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ariannu prosiect, sy'n cynnwys rhannu gwybodaeth swyddfeydd tocynnau rhwng canolfannau yng Nghymru.

Er mwyn cynyddu maint cynulleidfaoedd, targedu marchnata, annog pobl i ddychwelyd i ganolfannau neu ddefnyddio canolfannau eraill, mae angen i sefydliadau celf ddeall eu cynulleidfa eu hunain a chynulleidfaoedd canolfannau eraill yn ogystal â dadansoddi bylchau - h.y. meysydd lle nad oes cynulleidfaoedd.

Yn y gorffennol mae canolfannau wedi tueddu i ganolbwyntio ar eu data eu hunain ac yn wir maent wedi bod yn amharod i rannu unrhyw ddata. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy'n galluogi data a gwybodaeth arall (megis ymgyrchoedd llwyddiannus) i gael eu rhannu. 

Mae'r prosiect yn ei ddyddiau cynnar, ond mae unrhyw wybodaeth am gynulleidfaoedd yn allweddol i gynyddu presenoldeb a chyfranogiad, ac i gynyddu incwm swyddfeydd tocynnau ledled Cymru a lleihau dibyniaeth ar gymorthdaliadau cyhoeddus, a thrwy hynny greu sefydliadau celf mwy cynaliadwy. Mae'r canlyniadau sy'n deillio o'r prosiect yn cael eu monitro'n barhaus.

Agwedd bwysicaf hyn oll yw'r gydnabyddiaeth bod rhannu gwybodaeth (gellid dadlau gwybodaeth sy'n sensitif o safbwynt masnachol hyd yn oed) yn galluogi'r holl sefydliadau i elwa ar dwf mewn cynulleidfaoedd ac incwm.

Enw cyswllt: Jane Clarke
Swydd: Cyfarwyddwr Gweithredu
Ffôn: 029 20 376500
Ebost: jane.clarke@artswales.org.uk