Rheoli arian

Cyngor Celfyddydau Cymru - Trefniadau Grant a Chyfuniadau

Cyngor Celfyddydau Cymru

01/01/2008

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi adolygu sut y mae'n gweithredu ei raglenni grant. Y nod oedd eu gwneud yn symlach i'r ymgeisydd ac yn fwy effeithlon i Gyngor Celfyddydau Cymru. Fel sefydliad yr oeddem am symud adnoddau i ffwrdd oddi wrth brosesu grantiau i ddatblygu'r celfyddydau.

Ers lansio'r grantiau prosiect refeniw symlach, mae cleientiaid o'r farn bod rhaglenni grant yn hawdd i'w deall a bod ceisiadau'n gymharol syml. Mae'r newid i roi pwyslais ar waith datblygu ceisiadau wedi arwain at geisiadau sy'n canolbwyntio fwy ar ein blaenoriaethau ac sydd o safon uwch. Yr ydym wedi gweld bod canran uwch o ymholiadau wedi arwain at geisiadau gan fod swyddogion yn gallu treulio mwy o amser yn datblygu ceisiadau gyda chleientiaid. Yn 2004/2005 o'r 1,460 o ymholiadau a gafwyd, arweiniodd 48.6 y cant at geisiadau terfynol, ac yn 2005/2006 roedd y ffigurau hyn yn 1,249 a 65.2 y cant yn y drefn honno. Mae hyn yn golygu hefyd nad yw ymgeiswyr yn gwastraffu cymaint o amser ar geisiadau sy'n annhebygol o lwyddo. Mae swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gweld bod yr asesiadau'n symlach a'u bod yn treulio llai o amser ar asesiadau a mwy ar ddatblygu.

Mae'r amser sydd wedi'i ryddhau trwy symleiddio'r broses asesu wedi golygu bod y 12 swyddog yn gallu treulio mwy o amser ar geisiadau gan unigolion ac y mae eu datblygiad yn hanfodol i ansawdd a llwyddiant y celfyddydau yng Nghymru. Hefyd, mae swyddogion yn awr yn treulio mwy o amser yn delio gyda'u sefydliadau sy'n derbyn cyllid refeniw, sef y maes lle mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n gwario'r rhan fwyaf o'i gyllid grant. Mae'r amser cyfartalog a dreulir gan y 12 swyddog ar grantiau prosiect wedi gostwng gan arwain at arbed £16,800 yn 2006/2007, gyda'r arian yn cael ei ailgyfeirio at waith gyda chleientiaid refeniw a gwaith datblygu arall yn y maes datblygu'r celfyddydau. Hefyd, gall cyrff eraill sy'n dyrannu grantiau elwa ar y cynllun hwn.

Enw cyswllt: Jane Clarke
Swydd: Cyfarwyddwr Gweithredu
Ffôn: 029 20 376500
Ebost: jane.clarke@artswales.org.uk