Rheoli arian

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol GIG Caerdydd a'r Fro wedi gwireddu buddion o baratoi amserlen fanwl a chyfarwyddyd ar gyfer y broses gwblhau

Bwrdd Iechyd y Brifysgol GIG Caerdydd a'r Fro

01/01/2008

Er mwyn paratoi datganiadau ariannol manwl gywir a gorffenedig, mae'r Bwrdd Iechyd wedi paratoi amserlen diwedd blwyddyn manwl a chyfarwyddyd i'w ddosbarthu i bob aelod staff allweddol sydd yn ymwneud â phroses cau datganiadau ariannol y Bwrdd Iechyd.

Crynodeb o'r fenter

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol GIG Caerdydd a'r Fro yn sefydliad mawr a chymhleth sy'n gweithredu ar nifer o safleoedd ar draws De Cymru. Er mwyn paratoi datganiadau ariannol cywir a chyflawn, mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol wedi gweithredu amserlen ddiwedd blwyddyn fanwl a chyfarwyddyd cysylltiedig a ddosbarthwyd i'r holl staff allweddol a fu'n cymryd rhan yn y broses gwblhau datganiadau ariannol Bwrdd Iechyd y Brifysgol.

Darperir yr amserlen a'r cyfarwyddyd er mwyn sicrhau bod y paratoadau yn cael eu cyflawni ym mhob un o feysydd y datganiadau ariannol ar amser, a'i bod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Mae uwch reolwyr Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn gefnogol o'r broses hon ac yn sylweddoli pwysigrwydd paratoi cyfrifon cywir ac amserol er mwyn cyfrannu at adroddiadau ariannol Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn eu cyfanrwydd a'r agenda lywodraethu.

Tra bod gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol drefniadau monitro ariannol yn weithredol yn ystod y flwyddyn ariannol, mae'r broses gwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cynorthwyo'r Bwrdd hefyd i gwrdd â'i dargedau ariannol blynyddol trwy sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir ar gyfer yr archwiliad yn gyflawn ac wedi ei adolygu gan uwch staff Bwrdd Iechyd y Brifysgol cyn i'r archwiliad gychwyn.

Buddion a wireddwyd

O ganlyniad i baratoi trefniadau cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol wedi gwireddu nifer o fuddion o'r broses hon, yn cynnwys:

Y canlyniadau a wireddwyd

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol wedi gwireddu canlyniadau llwyddiannus o ganlyniad i weithredu proses gwblhau diwedd blwyddyn ariannol fanwl. Rhestrir y prif lwyddiannau isod:

Enw cyswllt: Richard Hutton
Swydd: Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol (Cyfrifyddu Ariannol) 
Ebost: Richard.Hurton@wales.nhs.uk