Rheoli arian

Adroddiad Blynyddol 2010-11: Swyddfa Archwilio Cymru yn paratoi ar gyfer y dyfodol

'Byddwn yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu ar gyfer pobl Cymru', meddai'r Archwilydd Cyffredinol

20/09/2011

Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2010-11, a gyhoeddir heddiw, yn nodi'r rhaglen sylweddol o waith archwilio ariannol a pherfformiad y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i chyflawni.

Mae adolygiadau mor amrywiol â phrosiectau trafnidiaeth mawr ac arlwyo mewn ysbytai wedi cael effaith fawr. Mae asesiadau newydd a mwy cyson ym maes iechyd a llywodraeth leol wedi ategu'r archwiliad ariannol o gyfrifon ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Ac, mewn cydnabyddiaeth o'r pwysau ariannol y mae cyrff cyhoeddus yn eu hwynebu, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi lleihau cyfanswm ei ffioedd wyth y cant rhwng 2009 a 2011.

Ar yr un pryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi bod yn canolbwyntio ar wella trefn llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru. Drwy fynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â chyfrifon 2009-10 a sicrhau cyfnod o arbedion llym a gwelliannau o ran effeithlonrwydd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi unioni sefyllfa ariannol anodd a bellach mae mewn sefyllfa well i helpu Cymru i ddelio â'r heriau ariannol sydd i ddod.

I weld y datganiad i'r wasg yn llawn, dilynwch y ddolen yma

I lawrlwytho copi o Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2010-11, cliciwch yma

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>