Rheoli arian
Adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o reolaeth Llywodraeth Cymru o sut mae'n ariannu Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dechrau adolygiad o reolaeth Llywodraeth Cymru o sut mae'n ariannu Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA).
28/02/2012
Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad ar 9 Chwefror gan y Gweinidog dros Gyllid ynglyn â chanfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Fawr o effeithiolrwydd y llywodraethu a rheoli ariannol sydd o fewn AWEMA. Bydd adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cael ei gynnal gan ddefnyddio'i bwerau dros astudiaethau gwerth am arian o dan adran 145a Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac Adran 135 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Caiff yr adroddiad wedi'i gyhoeddi ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn ddarostyngedig i graffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Bydd ein hadolygiad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi rheoli ei berthynas ag AWEMA yn briodol er mwyn amddiffyn a gwneud defnydd da o arian cyhoeddus. Wrth gynnal yr adolygiad yma, byddwn yn archwilio hanes llawn perthynas Llywodraeth Cymru gydag AWEMA. Bydd hyn yn rhoi ystyriaeth i'r camau sydd eisoes eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei amddiffyn a'i ddefnyddio'n dda, o ganlyniad i gyhoeddiad y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Ty ynglyn â thynnu yn ôl yr arian cyhoeddus i AWEMA.
Rydym yn disgwyl y byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Mai neu Mehefin 2012. Fodd bynnag, mae'r amserlen ar gyfer cwblhau ein gwaith yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn cynnwys yr angen i ni ystyried cwmpas ac amseru ymchwiliad y Comisiwn Elusennol ynghyd ag unrhyw gamau sydd i'w cymryd gan Heddlu De Cymru, a fydd, yn naturiol, yn cael blaenoriaeth ar ein gwaith ni.
<< Erthygl flaenorol
Erthygl nesaf >>