Rheoli arian

Menter Twyll yn darganfod gwerth £6 miliwn o dwyll a gordaliadau yn sector cyhoeddus Cymru

Ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol yw'r mwyaf llwyddiannus eto

16/05/2012

Mae ymarfer gwrth dwyll cenedlaethol wedi helpu cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod ac atal £6 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol, sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd, yn paru data ar draws sefydliadau a systemau er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i ddod o hyd i hawliadau a thrafodion a all fod yn dwyllodrus neu'n wallus. Yr ymarfer diweddaraf fu'r mwyaf effeithiol hyd yma. Ynghyd â darganfod gordaliadau twyllodrus, mae erlyn 54 o bobl yn llwyddiannus am droseddau'n ymwneud â thwyll yn debygol o atal pobl eraill rhag cyflawni troseddau tebyg.

Y Datganiad i'r Wasg llawn ynglyn â Menter Twyll Genedlaethol 2010-11

Fideo o'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Anthony Barrett yn rhoi safbwynt Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad am y Fenter (Saesneg yn unig)


 

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>