Yr Heddlu a'r gwasanaeth prawf

Rydym yn archwilio'r pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru, eu pedwar bwrdd/ymddiriedolaeth prawf a chydbwyllgor Awdurdodau'r Heddlu Cymru. Rydym yn adolygu pa mor dda maent yn rheoli eu harian ac yn asesu a oes ganddynt drefniadau priodol ar waith i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Comisiwn Archwilio ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi i gynnal archwiliadau o Awdurdodau'r Heddlu yng Nghymru.

Fel rhan o'n gwaith ar drefniadau gwerth am arian, rydym yn cynnal gwerthusiadau ar y Defnydd o Adnoddau o fewn awdurdodau'r heddlu. Rydym yn asesu trefniadau pob awdurdod mewn tri maes - rheoli arian, rheoli adnoddau eraill a llywodraethu'r busnes.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau annibynnol, yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau mewn partneriaeth â'r Comisiwn Archwilio ar ddefnydd yr heddlu o adnoddau ac ansawdd data ar droseddau.

Cyhoeddiadau a newyddion

Dolenni eraill