Yr Heddlu a'r gwasanaeth prawf

Y GIG yn cymryd camau i ddiogelu staff rhag trais ac ymddygiad ymosodol

Ond erys rhai pryderon o hyd dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru

18/02/2009

 PDF icon Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad - Diogelu staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol: Diweddariad
  Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
 

Cysylltiadau
Medi 2005: Diogelu staff Ymddiriedolaethau'r GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol
The National Assembly for Wales Audit Committee: Protecting NHS staff from violence and aggression
Ministerial Taskforce on Violence and Aggression in NHS (Wales):
Interim Report and Recommendations

Mae tasglu, a sefydlwyd i helpu i ddiogelu staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol, yn rhoi hwb newydd i wneud gwelliannau. Mae'r GIG wedi cymryd nifer o gamau i ddiogelu staff ond, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru mae problemau o hyd y mae angen mynd i'r afael â hwy. Canfu ei adroddiad dilynol, i Bwyllgor Archwilio Llywodraeth y Cynulliad, fod staff yn dal i fod yn amharod i roi gwybod am ddigwyddiadau; fod diffyg data meincnodi; a bod hyfforddi staff yn dal i fod yn broblem. Fodd bynnag, mae data ar ddigwyddiadau yn cael ei fonitro'n well, mae cyrff iechyd yn cymryd camau i atal a rheoli ymosodiadau, ac mae gwell cynlluniau ar waith i gynorthwyo staff yr effeithir arnynt.

Mae adroddiad heddiw 'Diogelu staff y GIG rhag trais ac ymddygiad ymosodol: Diweddariad' yn nodi'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y mater yn 2005 ac adroddiad dilynol gan Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn 2006. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor Archwilio chwe argymhelliad ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth y Cynulliad ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Cliciwch yma am y datganiad i'r wasg cyflawn

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>