Iechyd, lles a gofal cymdeithasol

Rydym yn archwilio ymddiriedolaethau'r GIG, byrddau iechyd a darparwyr gofal cymdeithasol, gan adolygu sut maent yn rheoli eu harian a ph'un a gaiff eu gwasanaethau eu rhedeg mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, gan gynrychioli gwerth am arian.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau annibynnol, yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da i hyrwyddo gwasanaethau iechyd gwell i ddinasyddion.

Rydym yn aml yn cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a chyrff archwilio ac arolygiaethau eraill.

Er mwyn adeiladu ar y cydweithio sydd eisoes yn bodoli, rydym hefyd wedi cofrestru ar goncordat gyda chyrff adolygu iechyd a gofal cymdeithasol eraill yng Nghymru.

Cliciwch yma i gael golwg ar y Concordat, ac yma ar gyfer y llythyr ategol.

Cyhoeddiadau a newyddion

Dolenni eraill