Llywodraeth, gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Rydym yn archwilio gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, gan fonitro gwariant blynyddol o tua £20 biliwn o arian trethdalwyr.

Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn archwilio cyfrifon Llywodraeth y Cynulliad fel rhan o'n gwaith cenedlaethol ar werth am arian, a hefyd yn edrych ar ei berfformiad.

Rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau mewn adroddiadau annibynnol ac yn cyflwyno rhai ohonynt i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a all fynd ymlaen i wneud ymholiadau penodol ynglyn â materion o ddiddordeb neu bryder sy'n deillio o'n hadroddiadau ni.

Gallwn hefyd ymgymryd â gwaith neu roi cyngor ar ran pwyllgorau craffu eraill y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyhoeddiadau a newyddion

Dolenni eraill