Llywodraeth, gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Gwasanaethau cymdeithasol caerffili yn gwneud gwelliannau cyson

Adolygiad â chanolbwynt penodol iddo o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

26/03/2009

 PDF icon Adroddiad - Adolygiad â chanolbwynt penodol iddo o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg
 

Cysylltiadau
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud gwelliannau cyson i'w ddarpariaeth o wasanaethau cymdeithasol, a bellach mae gan y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod well ffocws ar helpu i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, yn ôl adroddiad adolygiad penodol a gyhoeddwyd heddiw.

Canfu'r adolygiad penodol, a gyflawnwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, bod y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan y Cyngor wedi'u cefnogi gan arweinyddiaeth effeithiol gan uwch reolwyr, yn ogystal â gwell diwylliant rheoli perfformiad a threfniadau cynllunio a phartneriaeth cadarn. Fodd bynnag, mae angen gwella rhai agweddau ar wasanaethau o hyd.

Cliciwch yma am y datganiad i'r wasg cyflawn.

<< Erthygl flaenorol

Erthygl nesaf >>