'Ymgorffori datblygu cynaliadwy ymhob penderfyniad', dywed yr Archwilydd Cyffredinol
21/01/2010
| |
Datblygu cynaliadwy a gwneud penderfyniadau busnes yn Llywodraeth Cynulliad Cymru- cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad |
| |
Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad wella'r ffordd y mae'n gwneud penderfyniadau allweddol o hyd er mwyn creu Cymru gynaliadwy a chyflawni'r dyheadau a nodir yn ei chynllun sef Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, a gyhoeddwyd y llynedd.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn un o blith nifer fach o lywodraethau yn y byd sydd â dyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae wedi cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ôl cynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad sef, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i'n cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol. Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddir heddiw, er gwaethaf y ffaith bod cryn dipyn wedi cael ei gyflawni, mae mwy i'w wneud o hyd.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno amrywiaeth o adnoddau a dulliau gweithredu i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae wedi noddi ystod eang o brosiectau, megis ei menter i gaffael prydau bwyd sef Blas am Oes; addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; prosiect Cymru Gynaliadwy Iach GIG Cymru a dangosyddion cynaliadwyedd i Gymru. Fodd bynnag, ystyrir bod datblygu cynaliadwy yn un o blith nifer o flaenoriaethau croes, yn hytrach nag yn rhywbeth a fydd yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i ddewis rhwng blaenoriaethau croes. Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio datblygu cynaliadwy fel modd i newid diwylliant y sefydliad, neu hyrwyddo ffocws mwy penodol ar wella lles hir dymor pobl yng Nghymru. Nid yw potensial ar gyfer egwyddorion datblygu cynaliadwy i ategu llywodraethu da wedi ei llwyr werthfawrogi eto.Mae cyfyngiadau ym mhrosesau busnes Llywodraeth y Cynulliad yn golygu na chaiff yr agenda cynaliadwyedd ei defnyddio'n gyson wrth wneud pob penderfyniad busnes.
Cliciwch yma am y datganiad i'r wasg cyflawn