'Wales must change and innovate if it is to deliver in a harsh financial climate', says new Auditor General
16/03/2010
| |
Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad - Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus |
| |
Cliciwch yma i weld y datganiad i'r wasg |
|
Rhestr Wirio Arfer Da i Gyrff Cyhoeddus Meddylfryd Darbodus a Meddylfryd |
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi'r materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn taflu goleuni ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pum mlynedd ers i Swyddfa Archwilio Cymru gael ei chreu. Mae gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru felly mae mewn sefyllfa unigryw i allu edrych ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a nodi'r heriau a'r cyfleoedd cyffredin y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â hwy a'u hystyried yn y dyfodol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol. Dengys gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi gwella'n raddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ond mae angen gwneud cynnydd sylweddol o hyd ac ni fydd y duedd hon o ran gwella'n raddol yn ddigon yn y dyfodol. Mae gostyngiadau mawr mewn cyllidebau a galw cynyddol am wasanaethau yn golygu y bydd angen mabwysiadu dull llawer mwy radical o weithredu.