Llywodraeth, gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Hyfforddiant gyrwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

01/01/2008

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithredu fflyd o dros 230 o gerbydau. Pan gafodd Rheolwr Trafnidiaeth y Cyngor ei benodi 3 mlynedd yn ôl roedd yn amau nad oedd hyfforddiant gyrwyr mor effeithiol a ddylai fod. Cynhaliwyd adolygiad o hyfforddiant gyrwyr a daeth hwn i'r canlyniad bod angen gwelliannau. Ychydig iawn o strwythur oedd i addysg gyrwyr and roedd tueddiad cael hyfforddiant o ganlyniad i ddigwyddiadau yn hytrach nag anelu at osgoi damweiniau. Roedd amlder damweiniau hefyd yn uwch na'r disgwyl.

Cyflwynodd y Cyngor rhaglen hyfforddiant gyrwr cynhwysfawr gyda'r amcan o fod yn rhagweithiol ac adweithiol i anghenion addysg gyrwyr.

Cyflwynwyd rheolau newydd i lywodraethu'r cyflwyniad o yrrwyr newydd. Mae'r rheolau yn datgan nad oes gan unrhywun hawl gyrru cerbyd y Cyngor heb drwydded dilys am o leiaf dwy flynedd. Yn ychwanegol i hyn, mae'n orfodol i bob gyrrwr ymgymryd ag asesiad gyrru mewnol o'r adran drafnidiaeth.

Cyflwynwyd system gyfeillio lle nad oedd gyrrwyr cyflogedig newydd yn cael canaitad i yrru cerbydau arbenigol tan iddynt gysgodi gyrrwr profiadol am ddwy neu dair wythnos. Wedi'r cyfnod cyfeillio, gwneir asesiad pellach i sicrhau eu bod yn ffit i yrru.

Mae hyfforddiant penodol yn ei le i sicrhau bod gan y gyrwyr y sgiliau cywir i yrru bws mini. Mae'n un o ofynion polisi yswiriant y Cyngor fod pob gyrrwr bws mini â chymhwyster Cynllun Asesu Gyrrwr Bws Mini. Cynigir y cymwysterau yma gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ac maent yn ffocysu ar gyfrifoldebau'r gyrrwr, anghenion y teithwyr ac agweddau diogelwch eraill.

Mae'r Cyngor wedi gosod polisïau er mwyn bod yn fwy adweithiol pa fo damweiniau yn digwydd. Os ydy gyrwyr mewn un damwain fawr neu dri digwyddiad bach o fewn 18 mis, rhaid iddynt basio asesiad gyrru ychwanegol cyn cael caniatad i yrru cerbydau'r Cyngor eto.

Yngynghorwyd gydag undebau llafur a chwmni yswiriant y Cyngor ynglyn â'r newidiadau mawr yn hyfforddiant gyrwyr. Caiff y gofynion hyfforddi eu gosod yn llawlyfr y gyrrwr, ac mae'n ofynol i bob gyrrwr arwyddo hwn i gadarnhau eu bod wedi ei ddarllen a'i ddeall.

Mae cadw cofnodion wedi gwella er mwyn sicrhau bod gan bob gyrrwr y cymwysterau priodol. Mae'r holl gofnodion yn cael eu cadw mewn cronfa data trafnidiaeth ganolig. Mae cymwysterau Cynllun Asesu Gyrrwr Bws Mini yn ddilys am bedair blynedd ac mae cronfa data hyfforddi y Cyngor yn rhybuddio'r Adran Drafnidiaeth yn awtomatig pan fo hyffordiant gyrrwr ar fin dod i ben.

Mae'r Rheolwr Trafnidiaeth yn adrodd bod yna ostyngiad bach yn y costau o ganlyniad i ddamweiniau ers cyflwyniad y rhaglen hyfforddi newydd.

Mae'r Rheolwr Trafnidiaeth yn hawlio bod ffocws y Cyngor ar ddiogelwch ac mae hyfforddiant wedi bod yn ffactor pwysig yn y ffaith bod premiymau yswiriant y Cyngor wedi aros yn gyson am y dair blynedd diwethaf mewn marchnad sydd wedi gweld premiwm yswiriant sawl fflyd yn codi.

Mae gyrrwyr hefyd yn darparu adborth positif ar y cyrsiau maent wedi mynychu.

Enw cyswllt: Neil Hughes
Swydd: Rheolwr Trafnidiaeth
Ffôn: 01495 355629
Ebost: neil.hughes@blaenau-gwent.gov.uk 
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
Depo Ganolog
Ystad Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
Gwent
NP23 4YF