Mae Cymru'n defnyddio grantiau yn fwy na gweddill y DU. Mae llawer o gynlluniau grant yn orgymhleth ac anaml iawn y mae arianwyr a derbynwyr yn dysgu gwersi o broblemau gyda chynlluniau yn y gorffennol, yn ôl adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.
29/11/2011
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £2 biliwn bob blwyddyn drwy grantiau penodol, ond mae angen i arianwyr a derbynwyr ddysgu gwersi o fethiannau blaenorol wrth lunio a gweithredu cynlluniau grant.
Ymhlith y gwendidau a nodir yn yr adroddiad mae methiannau ar ran arianwyr i ystyried hyfywedd, gallu ac adnoddau'r rhai sy'n derbyn grantiau, ynghyd â diffyg eglurder ynghylch canlyniadau disgwyliedig prosiectau. Yn aml, nid yw arianwyr na derbynwyr yn cymryd camau i liniaru risgiau neu fonitro cynnydd prosiectau'n effeithiol ar ôl i'r grantiau gael eu dyfarnu.
Mae llawer o gynlluniau yn gymhleth a gellir eu symleiddio'n hawdd, tra bod amrywiaeth sylweddol ymhlith derbynwyr o ran ansawdd eu trefniadau i reoli prosiectau a ariennir drwy grantiau yn lleol.
I weld y ddatganiad i'r wasg lawn dilynwch y cysylltiad hwn
Mike Usher Rheoli Grantiau yng Nghymru - Barn y Cyfarwyddwr Grwp Mike Usher (Saesneg yn unig)