Gwaith a gomisiynir

Yn ogystal â chynnal archwiliadau ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cyflawni ystod o waith a gomisiynir gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus - yng Nghymru, ledled y DU ac mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd.

Un o'n prif gryfderau yw ein hamrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth am anghenion y sector cyhoeddus sy'n deillio o'n gwaith fel archwilydd allanol i'r sector cyhoeddus datganoledig cyfan yng Nghymru. Gallwn hefyd gasglu a lledaenu arferion da ym mhob rhan o'r sector. Defnyddir yr arferion da hyn hefyd i lywio aseiniadau penodol.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru felly mewn sefyllfa unigryw i helpu eich sefydliad i ddod yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r gwaith a gomisiynir a wnawn yn cynnwys:

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Swyddfa Archwilio Cymru helpu eich sefydliad cysylltwch â: