Cyfranogion newydd

Tra fod nifer o gyrff yn y sector gyhoeddus yn cymryd rhan yn y Fenter yn orfodol, gall sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat gymryd rhan yn yr ymarfer yn wirfoddol. Mae nifer o'r peryglon sydd yn cael eu delio â hwy gan y fenter yn berthnasol i bob sefydliad.

Buddion cymryd rhan

Drwy gyflwyno data cyflogres, gall y Fenter ddarparu dull i'r sefydliadau o adnabod cyflogeion;

Gall sefydliadau sydd yn cyflwyno eu data cyflogres pensiwn i'r Fenter adnabod achosion ble fo'r pensiynwr wedi marw ond fod y pensiwn yn parhau i gael ei dalu.

Mae'r Fenter, yn ogystal, yn paru taliadau credydwyr ac mae wedi datblygu nifer o brofion i amlygu taliadau a all fod yn rai deublyg neu dwyllodrus a graddau TAW anghywir. Mae hefyd yn galluogi sefydliadau i amlygu gwallau yn y system credydwyr a all eu gwneud yn agored i dwyll neu gamgymeriad.

Wrth gymryd rhan yn y Fenter, gall sefydliadau, nid yn unig nodi peryglon o fewn eu sefydliadau eu hunain, ond hefyd fod o gymorth i'r sector gyhoeddus yn ehangach drwy ddatgelu a lleihau taliadau twyllodrus a gwallus. Er enghraifft, mae data cyflogres sydd yn cael ei gyflwyno i'r Fenter yn cael ei baru â data buddion tai er mwyn darganfod achosion ble mae uwch-weithwyr (neu bobl mewn swydd yr ymddirir ynddynt) yn hawlio buddion heb ddatgan eu hincwm.


Sut y gall fy sefydliad gymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau dysgu mwy, cysylltwch â Kate Febry (Cydlynydd MTG Swyddfa Archwilio Cymru) ar 029 2032 0616 neu nfi@wao.gov.uk

Mae cost fechan er mwyn cymryd rhan yn y Fenter

Rydw i yn newydd i'r Fenter; beth nesaf?

Mae'r holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen arnoch ar gael ar y wefan drwy ddefnyddio'r dolenni isod;

Sut mae'r Fenter yn gweithio - eglurhad byr o gynnwys y Fenter;
Cyfarwyddiadau'r Fenter - mae'r tudalennau hyn yn eich darparu ag eglurhad o bob cam a beth sydd angen i chi ei wneud;
Yr amserlen - sy'n darparu amserlen o'r digwyddiadau sydd yn rhan o'r Fenter

Mae modylau hyfforddi manwl ar gael ar wefan ddiogel y Fenter sydd o help i egluro sut i ddefnyddio'r wefan ddiogel.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu angen cymorth, cysylltwch â Kate Febry (Rheolwr MTG) ar 029 2032 0616 neu nfi@wao.gov.uk