Ein gwaith

Gwneud i Arian Cyhoeddus Gyfrif
Mae'n gwaith yn delio 'r holl sectorau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi eu datganoli - yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth lleol a chanolog, y gwasanaeth tân, amaethyddiaeth, addysg a chynghorau cymuned.
Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo o fewn llywodraeth leol yw'r archwilwyr allanol statudol annibynnol ar gyfer y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am archwilio'n flynyddol y rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, yn cynnwys y £15 biliwn o arian a bleidleisir arno'n flynydol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae elfennau o'r arian yn cael ei basio gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).

Ein nod yw fod pobl Cymru yn gwybod os yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n gall, a bod cyrff cyhoeddus Cymru yn deall sut i wella canlyniadau.

Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith yn cael eigyhoeddui mewn adroddiadau archwilio ar gyrff cyhoeddus unigol, ynghyd âc adroddiadau ar astudiaethau gwerth m arian penodol a materion cyfredol.

Os ydych yn edrych am adroddiad penodol, ewch i'r dudalen cyhoeddiadau.

Os ydych yn edrych am ein gwaith mewn maes penodol, ewch i'n hadran dod o hyd i bwnc.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglyn â graddfeydd ffioedd a phennu ffioedd.