Yn ogystal a uno pwerau'r ddau gyfundrefn flaenorol, mae gan Swyddfa Archwilio newydd Cymru:
- pwer ychwanegol i i dderbynwyr a chontractwyr i ddilyn 'bunt gyhoeddus' , felly'n cyd-osod y pwerau yma gyda'r safonnau a osodwyd yn adolygiad yr Arglwydd Sharman,
- pwer newydd uniongyrchol i gynhyrchu adroddiadau o fudd i'r cyhoedd ar unrhyw gorff y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio, yn cynnwys cyrff GIG yng Nghymru;
- pwer newydd i ymgymryd âg astudiaethau gwerth am arian mewn gwasanaethau o fewn y cyrff y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio;
- y gallu i ymgymryd âg astudiaethau gwerth am arian mewn sefyldiadau addysg ar gais sefyldiad neulltiol, neu ar gais eu corff cyllido;
- y gallu, gyda chytundeb y Cynulliad, i ymgyryd âg astudiaethau ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (cymdeithasau tai).
O'r 1af o Ebrill, Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n gyfrifol am holl gyrff GIG. Gosodir adroddiadau ar y cyrff yma o flaen y Cynulliad ac fe all Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad ystyried yr adroddadau fel tystiolaeth.
Mae creadigaeth Swyddfa Archwilio Cymru yn golygu undod mewn archwilio ac arolgu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn enwedig, mae'n cynyddu'r sgôp i rannu gwybodaeth ac ymarfer da, yn enwedig ar draws sectorau. Yn yr un modd, gellir defnyddio deunydd o archwiliadau ac arolgiadau cyrff lleol er mwyn arddangos effaith polisiau cenedlaethol ar lefel lleol. Mae gallu Swyddfa Archwilio Cymru i oruwchwilio'r darlun cenedlaethol a lleol yn arf pwerus y gellir defnyddio er budd y rheuni sy gyfrifol am lunio, darparu ac archwilio polisi, yn ogystal a'r rheuni sy'n talu am ac yn derbyn y gwsanaethau.
Dylai Swyddfa Archwilio Cymru sicrhau archwilio ac arolygu mwy effeithiol. Dylai'r farn gynhwysfawr a roddir gan Swyddfa Archwilio Cymru helpu sicrhau fod ymdrechion archwilio ac arolygu yn cael ei dargedu lle y mae'r angen mwyaf. Wrth gasglu darlun llawn o'r peryglon i werth am arian mewn cyd-destun gweithredol, y mae'n bosibl assessu'r peryglon yn fwy cywir.
|