|
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyrff sydd dan ei nawdd ac yn gysylltiedig ag ef a cyrff GIG yng Nghyrmu. Y mae hefyd yn gyfrifol am apwyntio archwilwyr i warchod llywodraeth leol. Maent yn archwilio ac arolygu cyfrifon llywodraeth leol yn ffurfiol ac yn cynhyrchu adroddiadau gwerth-am-arian er mwyn helpu awdurdodau i wella eu gwasanaethau. Mae'r archwylwyr apwyntiedig yma hefyd yn archwilio Cynllun Blynyddol i Wella cynghorau lleol.
Mae archwilio cyhoeddus yn llawer fwy eang nag yn y sector preifat ac yn gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau llawer trymach ar archwilwyr. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth awpwyntio archwilwyr i unrhyw gorff llywodraeth leol neu GIG. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cymeradwyo awchwilwyr mewnol neu archwilwyr o PricewaterhouseCoopers, KPMG a Grant Thornton a cwmnioedd cyfrifeg eraill, i ymgymryd â archwiloedd yng Ngymru.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu y dewis o archwilwyr apwyntiedig ac yn monitro eu perfformiad yn fanwl trwy raglen o arolygon rheoli ansawdd.
|