The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Adolygiad Cymru Gyfan o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gan AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru

Beth yw CAMHS?

Mae CAMHS yn derm a ddefnyddir i gyfeirio at bob gwasanaeth sy’n ymwneud â neu yn effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, er bod rhai gwasanaethau sy’n dod o fewn cylch gorchwyl CAMHS o natur arbenigol, nid yw eraill yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol, ac nid ydynt wedi eu hanelu’n benodol at blant a phobl ifanc.  Ymhlith y gwasanaethau y mae gwasanaethau cleifion mewnol a chymunedol arbenigol, gwasanaethau cymdeithasol, Meddygon Teulu a gwasanaethau cynnal gwirfoddol ac addysg.

Pam rydym ni’n adolygu CAMHS?

Ym mis Medi 2001, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Strategaeth CAMHS Busnes Pawb, sy’n nodi rhaglen ddeng mlynedd ar gyfer sefydlu gwasanaethau cynhwysfawr, effeithiol ac o ansawdd uchel ledled Cymru.  Fodd bynnag ceir cryn bryder ynghylch datblygu CAMHS cynhwysfawr a theg ledled Cymru ac mae amrywiaeth o randdeiliaid wedi nodi bod CAMHS yn fater allweddol. Cwmpas yr adolygiad

Ymhlith y meysydd y bydd yr adolygiad yn eu hystyried y mae:

  • ystod y gwasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael i ateb gofynion plant a phobl ifanc ar draws Cymru;
  • profiadau plant, pobl ifanc a’u rhieni wrth gyrchu a defnyddio gwasanaethau;   
  • trefniadau ar gyfer cefnogi gwella’r gwasanaeth yn barhaus, gan gynnwys cynllunio a chomisiynu gwasanaethau.

Rydym wrthi’n datblygu methodoleg fanwl sy’n amlinellu sut byddwn yn cynnal yr adolygiad a byddwn yn ei chyhoeddi ar y wefan hon yn y man.

Sut allwch chi helpu?

Fel rhan o’r gwaith hwn hoffai tîm yr adolygiad i rieni, gofalwyr a staff sy’n gweithio yn neu gyda CAMHS ddweud wrthynt am eich profiadau - beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella. Hoffem glywed am wasanaethau a ddarperir yng Nghymru, a hefyd am wasanaethau a ddarperir mewn mannau eraill a ddefnyddiwyd gan gleifion o Gymru. Os oes gennych unrhyw sylwadau i’w gwneud gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r Ffurflen adborth.

Neu gallwch ysgrifennu atom yn

Tîm adolygu CAMHS
Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru
Ty Bevan
Parc Busnes Caerffili
Heol Van
CAERFFILI
CF83 3ED

Neu ebostiwch CAMSreview@wales.gsi.gov.uk

Rhaid pwysleisio er ein bod yn dymuno clywed profiadau unigol plant, pobl ifanc a'u gofalwyr, nid yw hyn ond yn rhan o’r broses o greu darlun o wasanaethau a threfniadau ar draws Cymru, a fydd yn helpu i lunio adroddiad cynhwysfawr i gefnogi datblygiad gwasanaethau a pholisi yn y dyfodol. Ni allwn weithredu mewn achosion unigol.