The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Oedi wrth drosglwyddo gofal
Oedi wrth drosglwyddo gofal

Am wybodaeth ar sut i gyfrannu at yr adolygiad, cliciwch yma

Y sefyllfa bresennol

Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd pan mae claf yn barod i gael ei drosglwyddo o wely ysbyty cyffredinol ac aciwt ond ei fod yn parhau i ddefnyddio'r gwely hwnnw. Gall oedi o ran rhyddhau gael effaith uniongyrchol a negyddol ar ansawdd gofal unigolion. Er enghraifft, gallai pobl hyn golli eu hannibyniaeth, eu symudedd, a'u rhwydweithiau cymdeithasol, ac maent mewn risg o syrthio a dal heintiau. (Llyfrgell Genedlaethol y GIG ar gyfer Iechyd)

Beth rydym yn ei wneud?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad trawsbynciol o oedi wrth drosglwyddo gofal yng nghymunedau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent, Caerdydd/Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin.

Prif amcanion yr adolygiad yw nodi'r prif gyfyngiadau mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal ym mhob cymuned iechyd a gofal cymdeithasol a hwyluso'r gwaith o ddatblygu atebion hirdymor cynaliadwy ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn asesu pa mor debygol yw'r cynlluniau presennol o lwyddo, y sefyllfa ariannol ac effeithiolrwydd systemau cyfan.

Mae ein gwaith, a gaiff ei gynnal yn ystod haf a hydref 2007, wedi deillio o broses asesu risgiau lleol fel rhan o'n harchwiliad o Ymddiriedolaethau GIG unigol, Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau unedol yn yr ardaloedd hyn.

Ein dull archwilio

Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol ym mhob cymuned iechyd a gofal cymdeithasol:

A yw'r Ymddiriedolaethau, y Byrddau Iechyd Lleol a'r Awdurdodau Unedol yn cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â graddau ac achosion oedi wrth drosglwyddo gofal mewn ffordd gynaliadwy yn y cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol?

  • Ar draws y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol, a oes dealltwriaeth glir, gyffredin o achosion oedi wrth drosglwyddo gofal a'i effeithiau?
  • A oes proses gweithio mewn partneriaeth effeithiol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer lleihau nifer yr achosion ohono?
  • A oes fframwaith rheoli effeithiol ar waith ar gyfer darparu gwelliannau cynaliadwy mewn oedi wrth drosglwyddo gofal o fewn y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol?

Bydd ein gwaith maes yn cynnwys:

  • Cyfarfod sefydlu yn cynnwys Prif Weithredwyr sefydliadau perthnasol
  • Gweithdy un diwrnod cychwynnol yn cynnwys un unigolyn allweddol, yn ddelfrydol unigolyn ar lefel weithredol, o bob sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys technoleg grwp ffocws arloesol ar gyfer nodi'r prif rwystrau rhag mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal ym mhob cymuned. Lle y bo'n berthnasol, bydd hefyd yn amlygu atebion ac arfer da posibl sydd wedi arwain at welliannau mewn rhai rhannau o'r gymuned iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai'r gweithdy yn canolbwyntio yn benodol ar effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth yn y gymuned a bydd yn rhoi cyfeiriad i weddill ein gwaith.
  • Cynnal arolwg llwybrau cleifion yn yr Ymddiriedolaethau perthnasol er mwyn nodi'r achosion, yr effaith a graddau'r oedi wrth drosglwyddo gofal.
  • Cyfweliadau rhannol strwythuredig mewn sefydliadau perthnasol ac ymhlith prif randdeiliaid.
  • Olrhain y broses o weithredu gwaith a gyflawnwyd ym mhob cymuned iechyd gan Dîm yr Asiant dros Newid AGAAGI.
  • Adolygu dogfennau a dadansoddi data.
  • Dadansoddiad ariannol system gyfan o'r oedi wrth drosglwyddo gofal yn y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Dadansoddiad o'r buddsoddiad i mewn ac effaith y gwasanaethau a ddatblygwyd gyda'r nod o wella safle oedi wrth drosglwyddo gofal.
  • Modiwl arfer da i nodi arfer da o fewn y gymuned, neu y tu allan i'r gymuned ond yn berthnasol iddi, a'r effeithiolrwydd o ran lledaenu arfer da.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cynnyrch yr adolygiad fydd:

  • gweithdy yn cyflwyno'r canfyddiadau i bob cymuned;
  • adroddiad trosolwg ar gyfer pob un o'r cymunedau;
  • gweithdai cynllunio camau gweithredu yn cynnwys awdurdodau lleol perthnasol, yr Ymddiriedolaeth a Byrddau Iechyd Lleol perthnasol i gael eu penderfynu; a
  • cyflwyno adroddiad trosolwg ar oedi wrth drosglwyddo gofal yn y cymunedau i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Effeithiau'r adolygiad yn y pen draw ddylai fod i nodi atebion ar lefel leol (awdurdod lleol) ac ar lefel y gymuned iechyd sy'n sicrhau lleihad cynaliadwy mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Bydd ein gwaith hefyd yn ceisio cefnogi gwell gweithio mewn partneriaeth ym mhob cymuned a gwell defnydd o adnoddau, o ran adnoddau cylchol a'r rheini a ddarperir yn benodol ar gyfer mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal.

Mae ein prosiect yn debygol o arwain at gynhyrchu adroddiadau trosolwg ar gyfer cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol Caerdydd a'r Fro, Sir Gaerfyrddin a Gwent.

Gallai hefyd arwain at gyflwyno adroddiad trosolwg cenedlaethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn nodi'r prif themâu a ddeilliodd o'r gwaith yn yr ardaloedd lleol.

Cyfrannu at yr adroddiad

Os oes gennych unrhyw safbwyntiau am oedi wrth drosglwyddo gofal yng nghymunedau iechyd a gofal cymdeithasol Caerdydd/Bro Morgannwg, Gwent neu Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â thîm y prosiect gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol.