The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Hysbysiadau Prosesu Teg – testun llawn
Hysbysiadau Prosesu Teg – testun llawn
Ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnal ymarferion paru data i helpu i atal a chanfod twyll.

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod ceisiadau a thaliadau twyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall
neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

Gan fod y defnydd o ddata gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn destun awdurdod statudol (Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen cael caniatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae pob corff sy'n cymryd rhan yn ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn cael adroddiad sy'n nodi'r data a gafodd eu paru yng nghofnodion y corff hwnnw a rhwng cofnodion y corff hwnnw a rhai cyrff perthnasol eraill. Cyfrifoldeb y corff ei hun yw ymchwilio i'r data a gaiff eu paru, er mwyn canfod achosion o dwyll, gordaliadau neu dandaliadau a gwallau eraill ynghyd â diweddaru ei gofnodion yn unol â hynny.

Hyd yma, mae'r Fenter Twyll Genedlaethol wedi arwain at ganfod tua £7 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru.

Sail gyfreithiol

O 2008, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal ymarferion paru data o dan bwerau statudol newydd a gynhwysir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Troseddu Difrifol 2007. Cynhaliwyd ymarferion blaenorol o dan ei swyddogaethau archwilio ac astudio gwerth am arian yn Neddf 2004 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998, ac o dan bwerau'r archwilydd penodedig.

O dan y pwerau newydd:

  1. caiff yr Archwilydd Cyffredinol gynnal ymarferion paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll;
  2. caiff yr Archwilydd Cyffredinol ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol a chyrff y GIG yng Nghymru ddarparu data ar gyfer ymarferion paru data;
  3. caiff cyrff a phobl eraill gymryd rhan yn ei ymarferion paru data yn wirfoddol pan fo'r Archwilydd Cyffredinol o'r farn bod hynny'n briodol. Pan wneir hynny, noda'r statud na thorrir cyfrinachedd ac yn gyffredinol mae'n gwaredu cyfyngiadau eraill o ran darparu'r data i'r Archwilydd Cyffredinol;
  4. mae gofynion Deddf Diogelu Data 1998 yn parhau i fod yn gymwys;
  5. caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddatgelu canlyniadau ymarferion paru data i gyrff sydd wedi darparu'r data ac i archwilwyr a benodir ganddo, os bydd hyn yn helpu i atal a chanfod twyll ac at ddibenion penodol eraill;
  6. caiff yr Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad cryno;
  7. caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddatgelu data a ddarparwyd ar gyfer ymarferion paru data a chanlyniadau'r ymarferion hynny i'r Comisiwn Archwilio, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon, Archwilydd Cyffredinol yr Alban, Comisiwn Cyfrifon yr Alban ac Audit Scotland, at ddibenion atal a chanfod twyll;
  8. mae achos anghyfiawn o ddatgelu data a ddarparwyd ar gyfer ymarferion paru data yn drosedd;
  9. caiff yr Archwilydd Cyffredinol godi tâl ar unrhyw gorff sy'n cymryd rhan mewn ymarfer paru data;
  10. rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol baratoi a chyhoeddi Cod Ymarfer. Rhaid i bob corff sy'n cynnal ei ymarferion paru data neu'n cymryd rhan ynddynt ystyried y Cod, gan gynnwys yr Archwilydd Cyffredinol ei hun.

Cyrff y mae'n ofynnol iddynt ddarparu data i'w paru neu sy'n gwirfoddoli data i'w paru

Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau llywodraeth leol unedol, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân ac achub, Byrddau Iechyd Lleol (BILlau), Ymddiriedolaethau'r GIG, byrddau prawf ac ymddiriedolaethau prawf ddarparu data. Yn ogystal, mae'r cyrff canlynol yn rhoi data i'r Archwilydd Cyffredinol i'w paru a hynny'n wirfoddol: Llywodraeth Cynulliad Cymru [List of voluntary participating bodies to be updated from time to time]

Y data a gaiff eu paru a'r rhesymau dros wneud hynny

Am wybodaeth sy'n disgrifio pa setiau o ddata a gaiff eu paru gan yr Archwilydd Cyffredinol a dibenion pob ymarfer paru data, gweler canllawiau'r Archwilydd Cyffredinol sydd ar gael ar y wefan hon.

Cod Ymarfer ar Baru Data

Mae ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer (gweler www.wao.gov.uk). Mae hyn er mwyn rhoi cymorth i’r cyrff sy’n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data.

Rhagor o wybodaeth

Mae mwy o fanylion am ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys adroddiadau cenedlaethol, cyhoeddiadau a chanllawiau eraill, ar gael yn www.wao.gov.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ymarferion y Fenter Twyll Genedlaethol yn http://www.wao.gov.uk/cymraeg/whatwedo/1252.asp.

Fel arall cysylltwch â Chydgysylltydd Menter Twyll Genedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ (nfi@wales.gov.uk).