|
Problem |
Ateb |
|
Ni chynhwyswyd systemau arwyddo hawl i brynu (h.y. defnyddir 'I' pan fydd yn mynd rhagddo, 'C' pan fydd wedi'i gwblhau) systemau arwyddo ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol (h.y. 'F' am denant blaenorol) yn gywir i'r data rhenti tai. |
Erbyn hyn mae angen cyflwyno data ar wahân ar gyfer ôl-ddyledion, hawl i brynu a thenantiaid arnom.
Dylid sicrhau y caiff prosesau echdynnu data eu dilysu cyn y caiff data ei gyflwyno. |
|
Roedd rhywfaint o ddata hawl i brynu yn anghywir gan nad oedd data yn gysylltiedig â'r unigolyn a oedd wedi prynu'r eiddo |
Dylid sicrhau y caiff prosesau echdynnu data eu dilysu cyn cyflwyno data. |
|
Nid oedd modd agor ffeiliau sip yn hawdd. |
Dylid gwirio ffeiliau sip i sicrhau bod modd eu hagor. |
|
Cwtogir ar feysydd wrth gyflwyno data weithiau sy'n golygu nad yw'r data yn ddefnyddiol o gwbl. |
Dylid edrych ar yr ychydig gofnodion cyntaf i sicrhau nad oes unrhyw feysydd wedi'u cwtogi. |
|
Cynhwysai ffeiliau gofnodion o hyd amrywiol. |
Os yw ffeil o led benodol, mae'n rhaid i bob cofnod yn y ffeil honno fod o'r un hyd |
|
Derbyniwyd rhai ffeiliau heb unrhyw ddogfennaeth o gwbl a oedd yn ei gwneud yn anodd adnabod meysydd. |
Dylid dilyn y cyfarwyddiadau llwytho data i lawr a chwblhau'r blychau priodol ar y sgriniau Llwytho Ffeiliau Data. Dylid anfon yr allwedd i unrhyw godau a ddefnyddir i nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk. |
|
Ni roddwyd cyfrineiriau gyda ffeiliau sip. |
Dylid rhoi'r cyfrinair ar sgrîn Llwytho Ffeiliau Data, ffoniwch 01782 664066 neu 664057 neu e-bostiwch nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk. |
|
Ni chynhwyswyd meysydd allweddol megis Rhif Yswiriant Gwladol gan olygu bod angen ailgyflwyno'r data. |
Dylid cyfeirio at y manylebau data sy'n amlinellu'r meysydd sydd eu hangen, cyn echdynnu neu gyflwyno data. |
|
Cyflwynwyd gwerthoedd mewn fformat sy'n wahanol i'r hyn a nodir yn y Llawlfyr. |
Os defnyddir fformat nad yw'n safonol, dylid marcio hyn ar y sgriniau Llwytho Ffeiliau Data. |
|
Ni nodwyd meysydd gwerthoedd gwag a dim yn unol â'r fformatau data sy'n angenrheidiol i'r Fenter Twyll Genedlaethol, h.y., llenwyd meysydd gwag a dim gyda sero yn hytrach na llenwi'r bwlch. |
Dylid sicrhau bod meysydd dim a gwag wedi'u nodi'n glir, gan ddefnyddio cod os bydd angen. |
|
Cyflwyno maes data. |
Mae rhai systemau yn nodi dyddiadau mewn fformat ddmmbb, sy'n cael eu llygru yn achos dyddiadau cyn 1930 ar ôl cael eu trosi ar daenlenni. I'r systemau hyn yn unig, dylech gyflwyno'r data heb ei drosi gan nodi hyn ar y sgrîn llwytho ffeiliau data. |