The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Ein gwaith > Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cynulliad
Swyddfa Archwilio Cymru a'r Cynulliad
Yr Archwiliwr Cyffredinol yw'r archwilydd allanol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyrff sydd dan ei nawdd ac yn gysylltiedig ag ef, megis Cyngor Cefn Glwad Cymru, a chyrff annibynnol cysylltiedig, megis Estyn.
Mae archwilio allanol yn cynnwys ffurfio barn ar gyfrifon blynyddol a baratoir gan y Cynulliad a'i gyrff cyhoeddus noddedig a cysylltiedig, a arolygu gwerth am arian.

Mae'r gwaith yma yn helpu darparu sicrwydd ar stiwardiaeth arian cyhoeddus gan y Cynulliad, ac yn cynorthwyo'r sector cyhoeddus i wella darpariaeth gwasnaethau.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn hollol annibynnol o'r llywodraeth. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflwyno adroddiad i Aelodau'r Cynulliad a chaent eu hystyried gan y Pwyllgor Archwilio.

Am fwy o wybodaeth am waith y Pwyllgor Archwilio cliciwch yma.

Mae gwaith gwerth arian yr Archwilydd Cyffredinol yn gweld a ydy Llywodraeth Cenedlaethol Cymru a'u cyrff perthnasol wedi defnyddio eu hadnoddau yn economaidd, effeithlon ac effeithiol a'i allugoi i wneud awgrymiadau am welliannau yn y defnydd o adnoddau. Gall yr archwiliadau yma gwmpasu nid yn unig y Cynulliad a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ond hefyd cyrff GIG a sefydliadau addysg uwch a phellach.

Gofynnir i'r Archwilydd Cyffredinol gymryd barn Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad mewn i ystyriaeth wrth lunio ei raglen archwiliadau gwerth am arian. Serch hynny, mae'r rhaglen terfynol yn fater i'r Archwilydd Cyffredinol yn unig ac yn hyblyg fel y bo modd iddo ymateb i ddatblygiadau yn y maes archwilio yn ystod y flwyddyn. 

Er mwyn cymryd barn Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad i ystyriaeth, pob hydref, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno memorandwm i Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn gosod allan ei rhaglen am archwiliadau gwerth am arian. Cyflwynodd yr Archwilydd Cyffredinol ei archwiliadau gwerth am arian i'r Pwyllgor ar 11 Hydref 2007.