The Childrens Trust Close
Home > Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Ein gwaith > Swyddfa Archwilio Cymru a llywodraeth leol
Swyddfa Archwilio Cymru a llywodraeth leol
Mae galwadau ar y gwasanaethau hyn yn cynyddu, fel y mae disgwyliadau’r cyhoedd o ran ansawdd, ymatebolrwydd a chost-effeithiolrwydd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cynulliad Cymru a rheoleiddwyr ac arolygwyr eraill i wella gwasanaethau cyhoeddus lleol. Y prif gyfrwng ar gyfer gwneud hynny yw Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, a ategir gan ofynion statudol Deddf Llywodraeth Leol 1999.

Mae Cynghorau’n atebol i’r cyhoedd am eu perfformiad gan y rheoleiddwyr allanol drwy raglenni archwilio ac arolygu blynyddol. Mae rhywfaint o waith SAC gydag awdurdodau lleol yn deillio o’r Cod Ymarfer Archwilio ac Arolygu, ac mae gwaith arall yn deillio o’i phwerau arolygu, yn cynnwys proses Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, a esbonnir yma.

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth ar waith Swyddfa Archwilio Cymru, cysylltwch â:

Anthony Snow: Partner, Swyddfa Arcwhilio Cymru
Julie May: Cyd-lynudd WPI, Swyddfa Archwilio Cymru