|
Cliciwch yma i weld Adroddiad Blynyddol Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella 2007
Y Cylch Gwella
Mae proses Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yn cynnwys cyfres o elfennau sy'n llywio prosesau corfforaethol a chynllunio cyllidebau cynghorau lleol:
- asesiadau perfformiad blynyddol o'u gwasanaethau a'u swyddogaethau i sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion strategol y cyngor ac i nodi cryfderau a gwendidau. O bryd i'w gilydd, gellir cynnal adolygiadau mwy sylfaenol pan fydd anawsterau neu bwysau sylweddol.
- cytunir ar asesiad risg ar y cyd blynyddol rhwng y cyngor a'i reoleiddwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella, a bygythion i wella.
- cynlluniau corfforaethol a chyllidebol sy'n ystyried canlyniadau'r asesiadau perfformiad blynyddol a'r asesiad risg ar y cyd.
- cynllun gwella blynyddol sy'n darparu trosolwg o berfformiad y cyngor, gan ganolbwyntio ar ei flaenoriaethau ar gyfer gwella.
- cynllun rheoliadol blynyddol sy'n dwyn ynghyd rhaglen waith gynlluniedig y rheoleiddwyr a'r arolygwyr.
- monitro a gwerthuso camau gweithredu i'w cynnwys mewn cynlluniau strategol ac asesiadau blynyddol.
Gellir gweld canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella yma.
Canllawiau Gweithredu
Bob blwyddyn, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi canllawiau gweithredu ar sut y mae rhai o brosesau Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn gweithio. Cyhoeddwyd y canllawiau diweddaraf ar y Broses Asesu Risg ar y Cyd ym mis Ebrill 2008. Cyhoeddwyd Canllawiau ar Archwilio'r Cynllun Gwella (yn cynnwys yr Archwiliadau o Ddangosyddion Perfformiad a Mesurau Perfformiad) ym mis Mai 2008.
Cyflwyno Adroddiadau ar Welliant
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gynnydd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella a gwelliant mewn llywodraeth leol. Cliciwch yma ar gyfer y fersiwn diweddaraf.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Anthony Snow, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Archwilio Cymru
Jane Holownia, Partner Ymgysylltu, Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, Swyddfa Archwilio Cymru
|