The Childrens Trust Close
Home > Gofal heb ei drefnu
Gofal heb ei drefnu
   Newyddion diweddaraf

Galw Iechyd Cymru
15 Medi
Mae’r adroddiad  Galw Iechyd Cymru  wedi cael ei gyhoeddi, cliciwch yma am fanylion.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym wedi lawnsio astudiaeth i effeithiolrwydd gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru a hoffem i aelodau’r cyhoedd gysylltu â ni gyda’u barn a’u profiadau.

Mae gofal heb ei drefnu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw ofal iechyd neu ofal cymdeithasol heb ei gynllunio – yn amrywio o driniaeth frys yn yr ysbyty, i gleifion y mae angen help arnynt i ofalu amdanynt eu hunain gartref.

Diagram o ofal heb ei drefnu

Pam rydym yn edrych ar hyn?

Mae natur gymhleth y system gofal heb ei drefnu bresennol yn gallu peri dryswch i aelodau o’r cyhoedd wrth iddynt ddewis ble i fynd am gymorth ac fe allant fynd at wasanaeth penodol pan allai fod wedi bod yn well iddynt fynd i rywle arall. Gall hyn, yn ei dro, arwain at roi pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, megis y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau achosion brys.

Os bydd angen mwy nag un gwasanaeth, nid yw’r gwasanaethau hyn yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd o hyd. Gall fod oedi wrth ddarparu gofal hefyd pan gaiff rhywun ei drosglwyddo rhwng gwasanaethau.

Bydd ein hastudiaeth yn edrych ar y system gyfan o ofal heb ei drefnu yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio’r darganfyddiadau o’r gwaith a gyhoeddwyd gennym ym Mehefin 2008 ar y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, byddwn hefyd yn ystyried yr agweddau canlynol ar ofal heb ei drefnu yn fanwl:

  • Galw Iechyd Cymru – ystyried ei gost effeithiolrwydd a’i rôl yn y dyfodol;
  • Damweiniau ac achosion brys – ystyried targed drosglwyddo’r cleifion, y modd y mae’r data yn cael ei gofnodi ac a ydy’r targed o gymorth i wella capasiti criw yr ambiwlans; a
  • Gwasanaethau y tu allan i oriau – bydd hyn yn cynnwys adolygiad o wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl y tu allan i oriau.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Stephen Lisle ar 029 2032 0610 neu ebost stephen.lisle@wao.gov.uk os gwelwch yn dda.

Am ymholiadau cyffredinol:

Ebost: info@wao.gov.uk
Ffôn: 029 2032 0521