The Childrens Trust Close
Home > Hafan >Pwy ydym ni? > Gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru
Gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru

Swyddog Cyllid:
Rydym yn chwilio am berson sydd â gwybodaeth a phrofiad o reoli llyfr prynu. Byddai profiad o fodiwl llyfr arian parod ac amcangyfrifon llif arian parod, ac o gyflawni tasgau cyfrifyddu eraill fel dibrisio a sicrhau y cwrddir â dyddiadau cau cyfrif misol hefyd yn ddymunol. Bydd hefyd angen cyflenwi mewn meysydd eraill o'r tîm cyllid fel delio â'r cyfriflyfr gwerthiant ar gyfer anfonebu ein cleientiaid a chynhyrchu adroddiadau prosiect.
.
Cyfeirnod y Swydd – FO 08 02 Cliciwch yma am becyn recriwtio
Amrediad cyflog: tua £14,960 - £19,040 i ddechrau gyda buddiannau ychwanegol.

(DS: mae'r ffigurau fel pob amrediad cyflog o fewn Swyddfa Archwilio Cymru yn rhai dros dro ac yn destun adolygu parhaus)
Bydd y cyflog cychwynnol yn dibynnu ar brofiad blaenorol yr unigolyn o ran y swydd benodol a lefel ei sgiliau a'i wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y ddwy swydd yw dydd Gwener 19 Medi 2008.


Swyddog Gwasanaethau Busnes:
Rheoli cyfres o ystafelloedd cyfarfod yn Swyddfa Archwilio Cymru yn effeithlon ac yn effeithiol yw prif gyfrifoldeb y swydd hon. Yn benodol byddech yn gyfrifol am ddefnyddio system drefnu electronig ac am wneud yn siwr fod yr ystafelloedd yn addas at y diben; a fyddai'n cynnwys gosod yr ystafelloedd i'r achlysur, trefnu unrhyw gyfleusterau TG/fideo gynadledda ac archebu cinio.

Cyfeirnod y Swydd - BSMR01  Cliciwch yma am becyn recriwtio
Amrediad cyflog: tua £14,000 i ddechrau gyda buddiannau ychwanegol. 

(DS: mae'r ffigurau fel pob amrediad cyflog o fewn Swyddfa Archwilio Cymru yn rhai dros dro ac yn destun adolygu parhaus)
Bydd y cyflog cychwynnol yn dibynnu ar brofiad blaenorol yr unigolyn o ran y swydd benodol a lefel ei sgiliau a'i wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y ddwy swydd yw dydd Gwener 15 Medi 2008.


Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Aelodau Cyswllt i ymuno â'n cronfa o staff a all gynorthwyo yn y broses o gyflawni gwaith ar draws amrywiaeth eang o archwiliadau ac arolygiadau sy'n gysylltiedig â sectorau llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, tai, y system gyfiawnder droseddol, tân ac iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Cyfeirnod y Swydd – APO01

Cliciwch yma am becyn recriwtio


 Cliciwch yma am ffurflen gais

Cliciwch yma am ffurflen monitro Cyfleoedd Cyfartal

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnig cyfleodd ar gyfer secondiadau ac aelodau cyswllt. Os oes diddordeb gennych drafod secondiad neu wneud cais i fod yn aelod cyswllt, yna cysylltwch a'r adran Adnoddau Dynnol ar 029 2032 0544.