The Childrens Trust Close
Home > Hafan >Pwy ydym ni? >Gweledigaeth a gwerthoedd > Cynllun cyhoeddiadau
Cynllun cyhoeddiadau

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cliciwch yma am restr o ddosbarthiadau ac isddosbarthiadau gwybodaeth a gynhwysir yng

Nghynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru

Beth yw diben y cynllun?

Dyma gynllun cyhoeddi Archwilydd Cyffredinol Cymru. O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dynodir Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ‘gorff cyhoeddus’, sy’n golygu bod  y Ddeddf yn berthnasol iddo. Gan mai’r Archwilydd Cyffredinol a’i staff sy’n ffurfio Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r cynllun hwn yn berthnasol i Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol i archwilwyr a benodir gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Ar y cyd â phob awdurdod cyhoeddus arall, mae’n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 bod Archwilydd Cyffredinol Cymru’n cynhyrchu cynllun sy’n pennu pa wybodaeth a gyhoeddir ganddo, sut y rhoddir y wybodaeth ar gael, ac a yw ar gael yn ddi-dâl neu ynteu a godir tâl amdani daliad. Yn unol â’r Ddeddf mae’n ofynnol cael cynllun cyhoeddi fydd yn nodi’r dosbarthiadau gwybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn eu cyhoeddi neu’n bwriadau eu cyhoeddi.

Diben y cynllun cyhoeddi felly yw esbonio pa wybodaeth y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n mynd ati i roi ar gael i’r cyhoedd, ac, a lle bynnag y bo’n bosibl, i ddarparu dull hawdd o gyrchu’r wybodaeth honno.

Sut mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n penderfynu pa ddosbarthiadau o wybodaeth i’w cynnwys yn ei gynllun cyhoeddi?

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystyried, fel egwyddor gyffredinol, ei bod yn briodol cynnwys ei holl adroddiadau a chyhoeddiadau yn ei gynllun cyhoeddi. Mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu, a byddant yn parhau i adolygu, ceisiadau am wybodaeth arall gyda golwg ar asesu a ddylid cynnwys rhagor o wybodaeth yn y cynllun.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adolygiad o’r ohebiaeth a dderbynnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ystyried, a bydd yn parhau i ystyried, budd y cyhoedd wrth iddo wneud rhagor o wybodaeth ar gael, gan gymryd i ystyriaeth ffactorau fel cyfyngiadau statudol, safonau proffesiynol a’r effaith ar atebolrwydd.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n bwriadu cyhoeddi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl pan fyddai hyn o fudd i’r cyhoedd.

Pa ddosbarthiadau o wybodaeth y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n eu rhoi ar gael o dan y cynllun hwn?

Trefnir y wybodaeth a roddir ar gael gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan y cynllun cyhoeddi hwn yn y dosbarthiadau lefel uchel canlynol:

  •        gwybodaeth ynghylch adrodd ar ddatganiadau ariannol;
  •        gwybodaeth ynglyn ag archwiliadau gwerth am arian ac adroddiadau gwella (ac eithrio llywodraeth leol);
  •        gwybodaeth ynghylch astudiaethau o gyrff llywodraeth leol;
  •        y Cod Ymarfer ac Arolygu Archwilio;
  •        gwybodaeth ynglyn â gwaith Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (chwythu’r chwiban);
  •        gwybodaeth ynglyn â gweinyddiaeth fewnol Swyddfa Archwilio Cymru.

Diffinnir y dosbarthiadau hyn gan y rhestr o isddosbarthiadau (cliciwch yma).

Sut y rhoddir y wybodaeth ar gael?

Gall gwybodaeth a restrir yng nghynllun cyhoeddi Archwilydd Cyffredinol Cymru fod ar gael ar nifer o ffurfiau:

  •        ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru (http://www.wao.gov.uk/);
  •        ar wefan arall, megis un Cynulliad Cenedlaethol Cymru (http://www.wales.gov.uk/index.htm);
  •        o Siop Lyfra’r Llyfrfa, 18-19 Heol Fawr, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548);
  •        wedi’i darparu ar ôl derbyn llythyr, galwad ffôn, ffacs neu e-bost at Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru (martin.peters@wao.gov.uk   ffon: 02920 260 260 ffacs: 029 2067 5801).

Mae’r cynllun hwn a’r dosbarthiadau o wybodaeth y mae’n ymdrin â nhw ar gael yn Gymraeg.

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn gwneud copïau print bras neu dapiau sain ar gael ar gais pan fydd hynny’n ymarferol.

Pwy sy’n gyfrifol am y cynllun cyhoeddi hwn?

Cymeradwyir y cynllun gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn bersonol. Mae Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru, Martin Peters, yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun o ddydd i ddydd.

Pa ffioedd sydd ar gyfer eitemau cynllun cyhoeddi?

Mae’r rhestr o ddosbarthiadau (gweler isod) yn dangos a godir ffi, o fewn pob dosbarth, am y wybodaeth neu beidio.  Mae gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar gael yn ddi-dâl - h.y. nid yw Swyddfa Archwilio Cymru’n codi ffi amdani, ond bydd rhaid i ddefnyddwyr dalu unrhyw gostau a godir gan eu Darparwr o Wasanaethau Rhyngrwyd, a’u costau argraffu eu hunain ac ati.

Mae copïau caled unigol o ddogfennau a gyhoeddir ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar gael ar ôl derbyn llythyr, galwad ffôn, ffacs neu e-bost at Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru (infooficer@wao.gov.uk , ffôn: 02920 260 260).  Diben hyn yw rhoi’r un wybodaeth ar gael i bobl heb fynediad at y rhyngrwyd ag sydd ar gael i bobl â’r cyfleuster hwn. Ysgrifennwch at:

Y Swyddog Gwybodaeth
Swyddfa Archwilio Cymru
2-4 Park Grove
Caerdydd CF10 3PA

Er hyn mae’n bosibl y codir tâl am geisiadau am nifer o gopïau neu am gopïau a archifwyd o ddogfennau nad ydynt bellach ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer costau eu hadfer, eu llungopïo, eu postio ac ati. Bydd Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru’n gadael i chi wybod a godir tâl. Bydd tâl o’r fath yn daladwy ymlaen llaw.

Yn achos y rhai sy’n gwneud cais am wybodaeth y nodir ei bod ar gael fel copi caled, bydd copi sengl ar gael drwy’r post o’r cyfeiriad cysylltu uchod. Fodd bynnag, mae’n bosibl y codir tâl am geisiadau am nifer o gopïau er mwyn talu am gostau eu hadfer, eu llungopïo, a’u postio. Eto, bydd Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru’n gadael i chi wybod a godir tâl, a bydd tâl yn daladwy o flaen llaw.

Pwy sydd berchen ar Hawlfraint gwybodaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru?

Oni nodir yn wahanol:

  • Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n dala hawlfraint y wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun cyhoeddi; gellir llwytho i lawr yr holl wybodaeth ar gael drwy wefan Swyddfa Archwilio Cymru, ei chopïo neu ei hatgynhyrchu’n ddi-
  • dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb unrhyw ganiatâd penodol.  Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i defnyddio mewn ffordd ddifenwol neu mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gyhoeddir neu dosberthir y deunydd i eraill, dylid cydnabod y ffynhonnell a’r statws hawlfraint.

O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a chyhoeddiadau eraill Swyddfa Archwilio Cymru’n cynnwys gwybodaeth sy’n destun hawlfraint y Goron, fel pan fyddwn wedi atgynhyrchu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth un o gyrff y Goron.

Pan ddigwydd hyn, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnwys datganiad hawlfraint a dylai defnyddwyr gadw at y datganiad a gweithredu yn unol ag ef. Gweinyddir Hawlfraint y Goron gan Lyfrfa ei Mawrhydi.

Am nodiadau arweiniol Llyfrfa Ei Mawrhydi ar ystod o faterion hawlfraint, gweler gwefan Llyfrfa Ei Mawrhydi (http://www.hmso.gov.uk) neu cysylltwch â’r Uned Hawlfraint a Thrwyddedau ar 01603 621000, anfonwch e-bost at Drwyddedau Llyfrfa Ei Mawrhydi (hmsolicensing@cabinet-office.gsi.gov.uk)

Nid yw Swyddfa Archwilio Cymru’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddeunydd sy'n cael ei westya ar safleoedd allanol.

Os ydych yn cynnal neu’n datblygu gwefan, nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau sy'n cael eu gwestya ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi beidio â chysylltu â gwybodaeth ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd sy’n awgrymu perthynas â, neu gymeradwyaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru, neu sy’n camliwio cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru fel ei bod wedi’i gyhoeddi gan unrhyw un arall ond Swyddfa Archwilio Cymru.

Sut mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn effeithio ar fy hawl gyffredinol i gyrchu gwybodaeth o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth?

Yn dechnegol y mae gwybodaeth a gynhwysir mewn cynlluniau cyhoeddi, fel hwn, wedi’i heithrio o’r hawl gyffredinol i gyrchu gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.  Fodd bynnag, caiff gwybodaeth o’r fath, wrth gwrs, ei darparu’n unol â’r cynllun cyhoeddi.

O dan yr hawl gyffredinol i wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ateb ceisiadau am wybodaeth. Mae’r hawl unigol hon am wybodaeth yn gymwys i bob math o wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus ta waeth beth yw dyddiad y wybodaeth.

Mae hyn yn golygu os ydych am gael gwybodaeth nad yw ar gael o dan y cynllun cyhoeddi gallwch ysgrifennu at Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru drwy’r cyfeiriad uchod i ofyn amdani. Yn amodol ar gyfyngiadau ar ddatgelu neu eithriadau a all fod yn berthnasol, rhoddir gwybod i unrhyw un sy’n gwneud cais a yw’r awdurdod cyhoeddus yn dala’r wybodaeth, ac, os felly, iddi gael ei rhoi iddo – fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith. Mae’n bosibl y codir tâl amdani.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar awdurdod cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth pe byddai’r gost amcangyfrif o wneud hynny’n mynd y tu hwnt i “derfyn priodol”. Pennir y terfyn hwn ar hyn o bryd drwy is-ddeddfwriaeth ar £450.

Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â sut i wneud ceisiadau am wybodaeth o dan yr hawl gyffredinol mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar (cywllt i Ryddid Gwybodaeth: Sut i wneud cais). Am ragor o wybodaeth ar weithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Deddf Archwilio Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â sut i wneud ceisiadau am wybodaeth o dan yr hawl gyffredinol mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar (cyswllt i Ryddid Gwybodaeth: Sut i wneud cais).  Am ragor o wybodaeth ar weithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Deddf Archwilio Cymru  Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â sut i wneud ceisiadau am wybodaeth o dan yr hawl gyffredinol mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar (cyswllt i Ryddid Gwybodaeth: Sut i wneud cais). Am ragor o wybodaeth ar weithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Deddf Archwilio Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â sut i wneud ceisiadau am wybodaeth o dan yr hawl gyffredinol mynediad Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar (cyswllt i Ryddid Gwybodaeth: Sut i wneud cais).  Am ragor o wybodaeth ar weithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Deddf Archwilio Cymru  cliciwch yma

Sut y gallaf i wneud cwyn ynghylch cynllun cyhoeddi Archwilydd Cyffredinol Cymru neu am y ffordd y triniwyd fy ngheisiadau am wybodaeth?

Yn y lle cyntaf, dylid anfon cwynion at Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru. Os nad ydych chi’n fodlon ar unrhyw ymateb dilynol, gallwch ysgrifennu at:

Rheolwr Archwilio Cwynion
2-4 Park Grove
Caerdydd
CF10 3PA

Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw ymateb canlynol, gallwch ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth, sydd â chyfrifoldeb am gymeradwyo Cynlluniau Cyhoeddi, am hyrwyddo cydymffurfio â’r Ddeddf a phwerau gorfodi. Manylion cysylltu’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 700                                       
Ffacs: 01625 524 510

Gellwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (http://www.informationcommissioner.gov.uk/)

Sut gallaf i wneud cwynion ynglyn â chynllun cyhoeddi Archwilydd Cyffredinol Cymru?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am gynllun cyhoeddi Archwilydd Cyffredinol Cymru, anfonwch nhw at:

Y Swyddog Gwybodaeth
Swyddfa Archwilio Cymru
2-4 Park Grove
Caerdydd, CF10 3PA


Rhestr o ddosbarthiadau ac isddosbarthiadau gwybodaeth a gynhwysir yng Nghynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cliciwch ar unrhyw un o’r teitlau isod i fynd i fanylion cyhoeddi’r isddosbarth hwnnw:    


Dosbarth: gwybodaeth ynghylch adrodd ar ddatganiadau ariannol


Dosbarth: Gwybodaeth ynghylch adroddiadau gwerth am arian ac astudiaethau gwella


Dosbarth: Gwybodaeth a gyhoeddwyd ynghylch astudiaethau cyrff llywodraeth leol


Dosbarth: Y Cod Ymarfer ac Arolygu Archwilio


  Dosbarth: Gwybodaeth a gyhoeddwyd ynghylch Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (chwythu’r chwiban)


Dosbarth: Gweinyddiaeth Fewnol


Dosbarth: gwybodaeth ynghylch adrodd ar ddatganiadau ariannol


Isddosbarth: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon a archwiliwyd

Diffiniad: Barn archwilio derfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon. Yn y rhan fwyaf o achosion, lle na cheir materion penodol o ddiddordeb, mae hyn yn golygu copi o’r cyfrifon a’r dystysgrif archwilio. Pan fydd materion o ddiddordeb penodol, gall Archwiliwr Cyffredinol Cymru gynhyrchu adroddiad ar wahân.

Fformatau ar gael: Yn achos adroddiadau ar wahân, rhai electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru
Cliciwch yma am adroddiadau

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
Gellir prynu  mwy nag un copi caled o’r adroddiadau hyn yn Siop y Llyfrfa, 18-19 Stryd Uchel, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548)

Yn achos adroddiadau sydd wedi’u cynnwys mewn cyfrifon, mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y swyddog gwybodaeth.       

(Fel arfer mae cyfrifon hefyd ar gael yn electronig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru http://www.wales.gov.uk/)

Cost: Yn ddi-dâl ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl ar gais. Mae  mwy nag un copi caled ar gael am bris oddi wrth y Llyfrfa

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Adroddiadau cyffredinol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon a archwiliwyd

Diffiniad: Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n cynhyrchu adroddiadau pob blwyddyn sy’n crynhoi materion o ddiddordeb sy’n deillio o ystod o’i archwiliadau o gyfrifon cyrff cyhoeddus.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau

Mae copïau caled unigol ar gael am ddim oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
Gellir prynu  mwyn nag un copi caled o’r adroddiadau hyn yn Siop y Llyfrfa, 18-19 Stryd Uchel, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548)

Cost: Yn ddi-dâl ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl ar gais. Mae nifer o gopïau caled ar gael am bris oddi wrth y Llyfrfa

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon cryno’r GIG

Diffiniad: Adroddiadau ar gyfrifon cryno’r GIG. Mae’n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi Cyfrifon Cryno o gyfrifon unigol cyrff y GIG, ac mae’r cyfrifon cryno hyn yn destun archwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau

Mae copïau caled unigol ar gael am ddim oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
Gellir prynu  mwy nag un copi caled o’r adroddiadau hyn yn Siop y Llyfrfa, 18-19 Stryd Uchel, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548)

Cost: Yn ddi-dâl ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl ar gais. Mae nifer o gopïau caled ar gael am bris oddi wrth y Llyfrfa

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Hysbysiadau i’r Wasg yn ymwneud â chyfrifon a archwiliwyd

Diffiniad: Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru weithiau’n cynhyrchu hysbysiadau i’r wasg yn ymwneud â chyfrifon a archwiliwyd er mwyn dosbarthu’r wybodaeth hon i’r wasg at bwrpasau adrodd yn ehangach i’r cyhoedd. Mae’r hysbysiadau hyn i’r wasg yn crynhoi canfyddiadau archwilio allweddol.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru www.wao.gov.uk/notices/index.htm

Mae copïau caled unigol ar gael am ddim oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Am ddim

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Rhestr o gyfrifon a archwiliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Diffiniad: Rhestr o’r holl gyfrifon y mae Archwilydd Cyffredinol Cymru’n eu harchwilio mewn unrhyw flwyddyn ariannol ( yn gynwysedig yn yr adroddiad blynyddol

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Dosbarth: Gwybodaeth ynghylch adroddiadau gwerth am arian ac astudiaethau gwella


Isddosbarth: Adroddiadau gwerth am arian a gyhoeddwyd

Diffiniad: Adroddiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cynildeb, yr effeithlonrwydd a’r effeithiolrwydd a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y Cynlluniad a chyrff eraill (gan gynnwys cyrff y GIG, ond ac eithrio cyrff llywodraeth leol) wrth ddefnyddio eu hadnoddau (adroddiadau gwerth am arian)

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
 

Gellir prynu  mwy nag un copi caled o’r adroddiadau hyn yn Siop y Llyfrfa, 18-19 Stryd Uchel, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548)

Cost: Yn ddi-dâl ar y wefan, copïau caled ar gael am bris oddi wrth y Llyfrfa  

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Papurau Thema (sector iechyd)

Diffiniad: Papurau a gyhoeddwyd yn cyflwyno canlyniadau ein gwaith ar gyrff lleol y GIG.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
 

Gellir prynu  mwy nag un copi caled o’r adroddiadau hyn yn Siop y Llyfrfa, 18-19 Stryd Uchel, Caerdydd, CF10 1PT (ffôn 029 2039 5548)

Cost: Yn ddi-dâl ar y wefan, copïau caled ar gael am bris oddi wrth y Llyfrfa

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Hysbysiadau i’r Wasg

Diffiniad: Crynodebau byr ar ganfyddiadau a gynhwysir mewn adroddiadau gwerth am arian (VFM) ac adroddiadau gwella. Cynhyrchir y rhain yn bennaf er mwyn i’r wybodaeth hon gael ei dosbarthu i’r wasg at bwrpasau adrodd yn ehangach wrth y cyhoedd.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru www.wao.gov.uk/notices/index.htm

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Rhaglen derfynol o archwiliadau gwerth am arian

 

Diffiniad: Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno’r archwiliadau yr arfaethir eu cychwyn mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol (yn dod i ben ar 31 Mawrth). Mae hyn yn cymryd i gyfrif y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio ar raglen arfaethedig yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau. 

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Rhaglen arfaethedig o archwiliadau gwerth am arian

Diffiniad: Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno’r archwiliadau yr arfaethir eu cychwyn mewn unrhyw flwyddyn ariannol benodol (yn dod i ben ar 31 Mawrth), a rhagor o gynigion y mae cychwyn arnynt mewn blynyddoedd dilynol yn cael eu hystyried. Mae’n cynnwys amlinelliadau byr o ystyriaethau cynllunio a chynigion unigol. Fe’i dyluniwyd i hwyluso ymgynghoriad gyda Phwyllgor Archwilio’r Cynulliad.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau.

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Dosbarth: Gwybodaeth a gyhoeddwyd ynghylch astudiaethau o gyrff llywodraeth leol


Isddosbarth  Papurau Thema (llywodraeth leol)

Diffiniad: Papurau a gyhoeddwyd yn cyflwyno canlyniadau gwaith gyda chyrff llywodraeth leol.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau.

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Yn ddi-dâl ar y wefan, copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Dosbarth: Cod Ymarfer ac Arolygu Archwilio'r Archwilydd Cyffredinol


Diffiniad: Cod a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol, o dan Adran 16 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn pennu ffordd y bydd archwilwyr yn cynnal eu swyddogaethau.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar Wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am gopi.

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Yn ddi-dâl ar y wefan, copïau caled ar gael yn ddi-dâl


Dosbarth: Gwybodaeth a gyhoeddwyd ynghylch â Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (chwythu’r chwiban)


Isddosbarth: Amlinelliadau o swyddogaeth a gweithdrefnau chwythu’r chwiban

Diffiniad: Amlinelliad o swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru fel person y gellir gwneud datgeliadau allanol iddo o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 a manylion ar sut i wneud datgeliad.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan cliciwch yma.

Copi caled ar gael ar gais oddi wrth Swyddog Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru
infoofficer@wao.gov.uk
Ffôn: 029 2067 8545

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Dosbarth: Gweinyddiaeth Fewnol


Isddosbarth: Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru

Diffiniad: Adroddiadau ar waith Archwilydd Cyffredinol Cymru gan gynnwys ei gyfrifon blynyddol cyhoeddedig, ynghyd ag adroddiad archwilydd allanol Archwilydd Cyffredinol Cymru ei hun ar y cyfrifon hynny.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau.

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
 

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Cyfarwyddiadau ariannol mewnol Swyddfa Archwilio Cymru

Diffiniad: Y rheoliadau mewnol ar gyfer busnes ariannol Swyddfa Archwilio Cymru ei hun.

Fformatau ar gael: Copïau caled unigol ar gael yn dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.
 

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru o Incwm a Gwariant

Diffiniad: Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru o incwm a gwariant ei swyddfa ar gyfer pob blwyddyn ariannol i ddod (o 2004-05).

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau.

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Agendâu a Chofnodion Cryno Cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli 

Diffiniad: Agendâu a chofnodion cryno cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli, sy’n goruchwylio gweithgareddau’r Swyddfa ac sy’n cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ar gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Cliciwch yma am adroddiadau.

Mae copïau caled unigol ar gael am ddim oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Swyddi Gweigion Cyfredol

Diffiniad: Manylion swyddi gweigion sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd, gan gynnwys trosolwg ar y swydd, disgrifiad o’r swydd a manyleb y person

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae copïau caled unigol ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth.

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)


Isddosbarth: Manylion Cysylltu

Diffiniad: Enwau, manylion cysylltu a chyfrifoldebau Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff allweddol Swyddfa Archwilio Cymru

Fformatau ar gael: Yn electronig ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Cost: Yn ddi-dâl

(yn ôl i'r brig)