|
Mae prif swyddfeydd Swyddfa Archwilio Cymru ar Heol y Gadeirlan Caerdydd, Mae yna swyddfa arall gerllaw ar Park Place a nifer o swyddfeydd eraill ar draws Cymru. Rydym yn aml yn gweithio o 'ystafelloedd archwilio' mewn sywddfeydd a leolir yn adeiladau awdurdodau lleol.
Cliciwch ar un o'r cysylltiadau isod er mwyn cael cyfarwyddiadau i swyddfa benodol:
Caerdydd - Caerfyrddin - Ewloe - Abertawe

Manylion Cyswllt: 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ
Ffôn: 029 2032 0500 Ffacs: 029 2032 0600 Ffon testun: 029 2032 0660
Cyrraedd yma:
O’r Dwyrain M4 i gyffordd 29 a dilynwch yr A48 i Gaerdydd (Dn & D) Uno ar Rodfa’r Gorllewin Mân droad i’r chwith am yr A4119/Lôn y Felin Trowch i’r chwith am yr A4119/Heol Caerdydd Trowch i’r chwith am yr A4199/Heol Pen-Hill Parhawch i ddilyn yr A4119.
O’r Gorllewin M4 i gyffordd 32, yna allan i’r dde i’r A470 ar hyd y ramp i Gaerdydd Parhau ar Heol y Gogledd Ar y gylchfan, cymerwch y 4ydd allanfa i’r A48/Rhodfa’r Gorllewin Mân droad i’r chwith am yr A4119/Lôn y Felin Trowch i’r chwith am yr A4119/Heol Caerdydd Trowch i’r chwith am yr A4199/Heol Pen-Hill Parhawch i ddilyn yr A4119
Cliciwch yma am gopi i'w argraffu (pdf)

Dychwelyd I frig y dudalen
Caerfyrddin
Manylion Cyswllt: Llawr Cyntaf, Adeiladau'r Lyric Stryd y Brenin Caerfyrddin SA31 1BH
Ffôn: 01267 242030 Ffacs: 01267 242039
Yn y car: Dilynwch yr M4 at ddiwedd y traffordd . Cymrwch yr ail droad ar y gylchfan (syth ymlaen) tuag at Caerfyrddin.
Ar y gylchfan nesaf, (Cross Hands) cymrwch y trydydd troad (syth ymlen), tuag at Caerfyrddin.
Cadwch i'r lôn dde wrth nesau at y gylchfan nesaf. Mae yna bont tua milltir cyn y gylchfan. Cymrwch y trydydd troad, A40 tuag at Llandeilo.
Cadwch yn y lôn chwith a dylech basio stâd ddiwydiannaol a 'Focus Do It All'. Cymrwch y troad cyntaf i'r chwith wrth y gylchfan a cadwch yn y lôn dde. Fe welwch garej Ford ar y dde wrth ddod at y gylchfan nesaf.
Yn y gylchfan hon, cymrwch yr ail droad. Byddwch yn pasio'r gorsaf trên ar y chwith.
Wrth agosau at y goleuadau traffig, cadwch i'r lôn dde. O'ch blaen fe welwch wal sy'n amgylchynnu Cyngor Sir Gâr. Wrth basio'r goleduadau, fe fydd y wal ar y chwith. Cerwch i'r dde gyda'r heol.
Ar ochr chwith yr heol fe fyddwch yn pasio adeilad gwyrdd. Trowch i'r chwith ar ol yr adeilad gwyrdd a dylech weld arwydd Maes Parcio ar y dde.
Wrth adael y Maes Parcio, trowch i'r dde a cerddwch i lawr Stryd y Brenin. Mae mynedfa ein swyddfa gyferbyn a caffi ar gornel Lôn Jackson.
Trên: Trowch i'r chwith o orsaf trên Caerfyrddin. Wrth i brif ffordd, trowch i'r chwith ac wrth eich bod yn agosau at y goleuadau traffig fe welwch wal o'ch blaen. Mae'r wal yn amgylchynnu Cyngor Sir Gâr. Wrth i chi gerdded heibio'r goleuadau dylai'r wal fod ar yr ochr chwith. Dilynwch yr heol. Wrth gerdded i fynu'r rhyw, fe fydd adeilad o'ch blaen sydd angen gwaith adnewyddu.
Trowch i'r chwith wrth yr adeilad yma i Stryd y Frenhines nes y gwelwch Metro ar eich ochr dde. Mae'r fynedfa i'n adeilad gyferbyn a tafarn Hamilton's.
Cliciwch yma am gopi i'w argraffu (pdf)

Dychwelyd I frig y dudalen
Ewloe

Manylion Cyswllt: Uned 4 Evolution Pentre Busnes Lakeside Parc Dewi Sant Ewloe CH5 3XP
Ffôn: 01244 525970 Ffacs: 01244 525989
Cyrraedd yma:
Parhawch ar yr A55 tan i’r ffordd ddeuol wyrio o’r brif ffordd i’r A494 (arwydd Queensferry, Manceinion M56) Arhoswch yn y lôn chwith (arwydd Buckley) yna ar y gylchfan cymerwch y 4ydd allanfa i’r B5125 (arwydd Hawarden) ac yna ar y gylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa i Heol yr Ystad gan basio Gwesty St David’s a Swyddfa Redrow ar y dde a throwch i’r dde yn syth ar ôl yr Eglwys i Bentref Busnes Ger-y-Llyn yna i’r dde eto ymlaen i’r maes parcio.
Trên: Mae gorsaf dren Caer 15 o swyddfa Ewloe mewn tacsi.
Cliciwch yma am gopi i'w argraffu (pdf)

Dychwelyd I frig y dudalen
Manylion Cyswllt:
Swyddfa Archwilio Cymru Llawr 1af Princess House Ffordd y Frenhines Abertawe SA1 3LW
Ffôn: 01792 454735
Cyrraedd yma:
Gadewch yr M4 ar gyffordd 42, dilynwch yr A483 i Abertawe am 4.5 milltir. Wrth y goleuadau traffig ger y Ganolfan Hamdden/Amgueddfa Arforol, trowch i’r dde i Ffordd y Dywysoges. Princess House yw’r adeilad swyddfa cyntaf ar y dde, gyferbyn â Bwyty Rendezvouz.
Cliciwch yma am gopi i'w argraffu (pdf)

Dychwelyd I frig y dudalen
|