Llyfrgelloedd – mwy na llyfrau

05 Tachwedd 2020
  • Ers ein hedefyn Twitter am wasanaethau llyfrgell yn ôl ym mis Gorffennaf, mae llawer o bethau wedi newid. Mae'r rhestr o bethau rydyn ni'n cael eu gwneud wedi parhau i dyfu'n fwy na'r rhestr o bethau nad ydyn ni'n cael eu gwneud.  Mae cynghorau wedi gallu dechrau meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf, yn hytrach na dim ond gorfod ymateb i'r hyn sydd newydd ddigwydd. Mae'n ymddangos fel amser da i fyfyrio ynghylch sefyllfa gwasanaethau'r Cyngor - yn yr enghraifft hon, gwasanaethau llyfrgell - a ble y gallent fynd nesaf.

    Ers ein hedefyn Twitter am wasanaethau llyfrgell yn ôl ym mis Gorffennaf, mae llawer o bethau wedi newid. Mae'r rhestr o bethau rydyn ni'n cael eu gwneud wedi parhau i dyfu'n fwy na'r rhestr o bethau nad ydyn ni'n cael eu gwneud.  Mae cynghorau wedi gallu dechrau meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf, yn hytrach na dim ond gorfod ymateb i'r hyn sydd newydd ddigwydd. Mae'n ymddangos fel amser da i fyfyrio ynghylch sefyllfa gwasanaethau'r Cyngor - yn yr enghraifft hon, gwasanaethau llyfrgell - a ble y gallent fynd nesaf.

    Hyd yn oed pan oedd y cyfyngiadau symud ar eu llymaf, fe wnaeth llyfrgelloedd barhau i gynnig cynnwys digidol fel e-lyfrau ac e-gylchgronau, cynnal sesiynau amser stori a chlybiau llyfrau ar-lein.  Wrth i'r cyfyngiadau lacio, fe wnaeth llawer ganfod ffyrdd o gael llyfrau i bobl a oedd eu heisiau a'u hangen, naill ai drwy eu dosbarthu i'w cartrefi neu drwy wasanaethau clicio a chasglu. [Gweler ein hedefyn Twitter am fwy o enghreifftiau].

    Y newid mawr ers mis Mehefin yw bod llawer o lyfrgelloedd bellach yn gadael i bobl ddefnyddio'u cyfleusterau TG, er bod angen i chi archebu ymlaen llaw. Nid yw'r gwasanaeth llyfrgell yr un fath ag oedd e ym mis Chwefror, ond mae'n dechrau edrych yn debycach iddo bellach.

    Felly beth rydyn ni wedi'i ddysgu? Wel, er mor bwysig yw'r llyfrau, mae mwy i lyfrgelloedd na llyfrau'n unig. Nid dyna'r elfen ddysgu - mae'n gyffredin y dyddiau yma i sôn am lyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol; gwasanaethau sy'n gallu lliniaru pob math o anfantais ac allgau, yn enwedig allgau digidol. Ond nid yw hynny o reidrwydd yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae'r gwasanaeth wedi dechrau adfywio wedi'r cyfyngiadau symud.

    O safbwynt rhywun o'r tu allan, gan edrych ar ba rannau o'r gwasanaeth y bu modd eu hailgychwyn yn fwyaf cyflym, mae'n ymddangos mai'r llyfrau oedd yr elfen hawdd.  Nid yw hynny i fychanu'r gwaith caled y mae pobl wedi'i wneud ar y logisteg, ond mae'n amlwg bod Cynghorau wedi gallu cynnig ffordd o ddosbarthu llyfrau i bobl tra'n cynnal hylendid a chadw pellter cymdeithasol yn gymharol gyflym.

    Roedd angen ychydig mwy o amser i weld sut gallai pobl ddefnyddio'r offer TG; sydd ddim yn syndod gan fod rhai cymhlethdodau ychwanegol yn gysylltiedig â hynny. Rhaid i bobl allu dod i mewn i'r adeilad yn gorfforol, sy'n cicio nyth cacwn arall. Serch hynny, mae llyfrgelloedd yn gweld sut mae gwneud hynny gyda systemau apwyntiadau, trefniadau glanhau mwy trylwyr ac adnoddau newydd fel gorchuddion bysellfwrdd untro.  Mae hynny'n bwysig, yn bwysicach na llyfrau o bosib, oherwydd mae cynhwysiant digidol yn broblem wirioneddol i rai pobl yn ein cymunedau, ac mae'n broblem sydd ond yn mynd yn fwy difrifol wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus fynd  yn ddigidol yn ddiofyn.  Mewn llawer o achosion mae digideiddio wedi cyflymu mewn ymateb i'r pandemig, ac er ei bod wedi bod yn ysbrydoledig iawn gweld gwasanaethau cyhoeddus yn croesawu atebion digidol gyda'r fath gyflymder a hyblygrwydd, mae gan lyfrgelloedd ran hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi'r rhai a allai gael eu gadael ar eu hôl fel arall.

    Y darn sy'n dal i fod yn anodd – ac yn absennol i raddau helaeth hyd yma - yw'r elfen gymunedol. Nid beirniadaeth ar lyfrgelloedd yw hynny – un o nodweddion diffiniol y pandemig a'n hymdrechion i arafu ei ledaeniad yw'r ffordd y bu'n rhaid i ni fod ar wahân yn gorfforol i ffrindiau a theulu a'n cymuned ehangach. Mae hynny wedi bod yn anodd i bawb, ond mae wedi bod yn arbennig o anodd i bobl a oedd eisoes â chysylltiadau cymdeithasol cyfyngedig. Mae cyfeiriadau at wasanaethau eraill, man cyfarfod ar gyfer gwahanol grwpiau cymunedol, neu sgwrs fer gyda'r llyfrgellydd a chael eistedd i lawr mewn adeilad cynnes i gyd yn agweddau ar y gwasanaeth llyfrgell sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, ond gellid dadlau mai'r rhain yw'r rhai pwysicaf oll i'r bobl sy'n elwa arnynt.

    Mae llyfrgelloedd wedi bod yn gwneud pob ymdrech i gynnal eu gwasanaeth drwy'r pandemig, ond fel llawer o wasanaethau, mae'r dull gweithredu hyd yma, o anghenraid, wedi bod yn bragmatig. Mae llyfrau'n cael eu benthyg a'u dychwelyd oherwydd bod hwnnw'n drafodiad cymharol syml. Mae cysylltiadau a rhwydweithiau cymunedol anffurfiol ond hanfodol ar stop o hyd am nad ydym wedi canfod ffordd ddiogel o wneud hynny eto, er na fyddai unrhyw un yn diystyru ei bwysigrwydd.  

    Nid yw'n syndod bod cynghorau, yng nghyd-destun y pandemig, wedi bod yn canolbwyntio ar sut y gallant ddarparu gwasanaethau; o ystyried yr heriau dan sylw, mae'n ymddangos yn annheg tynnu sylw at y ffaith nad ydynt wedi cael llawer o gyfle i ystyried pam eu bod yn gwneud pethau. Does neb yn tanbrisio pa mor heriol fu'r misoedd diwethaf, ond mae'n werth nodi, ochr yn ochr â'r heriau, bod cyfleoedd i ailadeiladu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, gan olygu eu bod yn fwy addas i'r 21ain ganrif.

    Wrth i gynghorau symud ymlaen i'r normal newydd, bydd hi'n ddiddorol gweld a fyddant yn canolbwyntio ar y cysyniadau traddodiadol o'r hyn y mae gwasanaeth yn ei wneud – yn yr achos hwn, y llyfrau – neu a ydyn nhw’n gallu manteisio ar y cyfle i feddwl yn fwy treiddgar am eu diben - y 'pam', yn ogystal â'r 'sut’.

    Mae'r pandemig wedi dangos i ni dro ar ôl tro fod yna anghydraddoldebau sylweddol yn ein cymdeithas eisoes. Yn yr enghraifft hon, bydd pobl â rhwydweithiau teuluol a chymdeithasol cryf, neu fynediad hawdd at wasanaethau digidol, wedi gallu dod drwy'r storm hon yn haws a chyda llai o effeithiau negyddol na'r rhai sydd hebddynt. Mae llinellau ffawt a oedd yn bodoli eisoes wedi lledu ac yn mynd yn anoddach i'w hanwybyddu. Bydd gan wasanaethau cyhoeddus rôl hanfodol i'w chwarae o ran penderfynu a yw'r llinellau ffawt hynny'n lledu o hyd, neu’n dechrau cau.

    Gwybodaeth am yr awdur:

    Mae Rachel Harries yn gweithio i Archwilio Cymru ers 2015. Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn nhîm Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol gan roi profiad o ystod eang o bynciau archwilio iddi. Cyn hynny, treuliodd 15 mlynedd yn gweithio mewn gwahanol gilfachau yn Llywodraeth Leol, gan gynnwys oddeutu blwyddyn mewn llyfrgell.