Canllawiau cyfryngau cymdeithasol

Os postiwch gwestiwn i ni ar y safleoedd hyn byddwn yn ymateb mor gyflym â phosib yn ystod oriau gwaith (Llun-Gwener, 9yb-5yh). Os yw eich ymholiad yn disgyn y tu allan i’r oriau hyn byddwn yn cysylltu’n ôl cyn gynted â phosib. Gofynnwn i chi fod yn barchus yn eich sylwadau.

Rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw beth sydd, yn ein barn ni, yn:

  • Sarhaus neu’n ymosodiadau personol
  • Deunydd sy’n anghyfreithlon, aflan, difenwol, bygythiol, achosi aflonyddwch, athrodus, atgas neu a all godi cywilydd ar unrhyw endid arall
  • Hysbysebion trydydd parti
  • Llythyrau cadwyn neu ‘spam’

Rydym hefyd yn cadw’r hawl i ddiddymu hygyrchedd defnyddwyr sy’n postio cynnwys o’r fath. Nid yw’r safbwyntiau a’r barnau a ddatganir ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol Archwilio Cymru o reidrwydd yn cynrychioli rhai  Archwilio Cymru. Felly, ni allwn gael ein dal yn gyfrifol am gywirdeb neu ddibynadwyedd gwybodaeth a gaiff ei bostio gan bartïon allanol.

Er mwyn eich diogelwch, peidiwch â chynnwys eich rhif ffôn, e-bost, cyfeiriad nag unrhyw wybodaeth bersonol arall mewn post. Mae eich sylwadau i’w gweld gan bawb.