Shared Learning Webinar
Sgwrs Drawsiwerydd - Gwydnwch ac Adfywio Cymunedol

Gan greu cysylltiadau rhwng Cymru a Nova Scotia, mae'r Sgyrsiau ar Draws yr Iwerydd yn gyfle i rannu safbwyntiau a phrofiadau ar draws y cefnfor.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Bydd y Sgwrs Drawsiwerydd nesaf ar thema Gwydnwch ac Adfywio Cymunedol - gan drafod sut all cymunedau weithio i ddiogelu eu dyfodol. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 10/6/21 rhwng 14:00-15:30 BST, sef 10:00-11:30 ADT.

Mae sgwrsio yn adeiladu cymuned a pherthynas, gan agor y drws i wahanol safbwyntiau a phosibiliadau. Rhai o'r sgyrsiau mwyaf gwerthfawr mewn cynadleddau yw'r rhai sy'n digwydd tu allan i'r sesiynau ffurfiol gyda'r rhai sydd yn gwneud swyddi cyfatebol mewn sefydliadau eraill. Mae'r cydweithrediad yma rhwng Archwilio Cymru, CLARI a Consider Conversation: Global Insights, Strategies, Connections yn creu'r cyfleon yma i chi.

Bydd y digwyddiad 90 munud yma yn rhoi cyfle i sgwrsio gydag eraill sydd yn gweithio mewn meysydd tebyg, sydd â diddordeb yn y thema. Byddai'n fuddiol i chi dreulio ychydig o amser yn ystyried sut mae eich sefydliad wedi ymateb i'r thema, a dod a syniadau, datrysiadau ac unrhyw heriau sy'n eich wynebu yr hoffech chi eu rhannu.

 

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events