Hysbysiad Recriwtio Swyddi

Mae'r hysbysiad hwn yn dweud wrthych sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth pan fyddwch yn gwneud cais am swydd yn Archwilio Cymru. Mae hyn yn cynnwys eich ffurflen gais, gwybodaeth a gofnodir gennych chi neu amdanoch chi yn ystod unrhyw asesiad neu gyfweliad ac unrhyw wybodaeth sgrinio cyncyflogi. 

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio sut y mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, ac mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu'r staff a'r adnoddau i'w alluogi i wneud ei waith. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan. 

Y cyfreithiau perthnasol

Byddwn yn prosesu eich data personol o dan gyfraith diogelu data gan gynnwys y Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn recriwtio cyflogeion i fodloni ei ddyletswydd gyfreithiol o dan adran 21 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 i ddarparu staff ac adnoddau i alluogi'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei swyddogaethau, sydd, yn dibynnu ar y swyddogaeth benodol, yn rhwymedigaethau cyfreithiol neu arfer awdurdod swyddogol, neu dasgau er budd y cyhoedd. 

Lle rydym yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn cadw eich cais am swydd ac unrhyw ddogfennau ategol mewn system recriwtio ar-lein a gynhelir gan Archwilio Cymru. Gall ymgeiswyr fewngofnodi i'r system er mwyn cofnodi data a chyflwyno ceisiadau. Caiff gwybodaeth o asesiadau, cyfweliadau a sgrinio cyn-cyflogi ei chadw'n ddiogel yn ein systemau. 

Yr hyn a wnawn gyda'ch gwybodaeth

Byddwn yn rhannu'r wybodaeth a ddarparwch yn eich cais â’n hadran Adnoddau Dynol ac aelodau o'r panel dethol at ddibenion y broses recriwtio. Gall y panel dethol gynnwys aelodau allanol megis arbenigwr rheoli ymgeisydd Efallai y byddwn hefyd yn rhannu peth gwybodaeth gyda’ch geirdaon pe bawn yn dymuno gofyn am eirda. Oni bai am hyn, ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ymhellach heb eich hysbysu ymlaen llaw oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddatgelu'r wybodaeth neu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol.
Rydym yn cadw gwybodaeth am ymgeiswyr aflwyddiannus am uchafswm o 2 flynedd ar ôl cwblhau'r broses recriwtio, ac yna rydym yn ei dinistrio neu ei dileu. Defnyddir y wybodaeth hon at ddibenion monitro ac ar gyfer adroddiadau ystadegol ar ein gweithgarwch recriwtio. 
Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth am ymgeiswyr llwyddiannus i'w cofnodion cyflogai, a ddelir yn unol a'n Polisi Cadw Dogfennau a Chofnodion.
Mae rhai o’n swyddi a/neu gwaith yn gofyn am wiriad DBS neu gliriad diogelwch uwch. Os yw hyn yn berthnasol, caiff eich data ei brosesu gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a/neu National Security Vetting Solutions yn unol â’u polisïau preifatrwydd sydd ar gael ar: https://www.gov.uk/government/publications/dbs-privacy-policies a https://www.gov.uk/government/publications/national-security-vetting-privacynotice  

Gwybodaeth Bersonol Sensitif

Lle rydych yn darparu gwybodaeth bersonol sensitif, fel gwybodaeth am eich iechyd, tarddiad hiliol neu ethnig, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu nodweddion gwarchodedig eraill, defnyddir hyn at ddibenion gwneud addasiadau rhesymol ac i fonitro cydymffurfiaeth a deddfwriaeth cydraddoldeb. Caiff y wybodaeth ei chadw ar wahan i'ch cais, ni chaiff ei dosbarthu i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol a'r broses recriwtio ac ni chaiff ei defnyddio wrth asesu eich addasrwydd ar gyfer y rol. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, efallai y byddwn yn datgelu eich data personol sensitif i drydydd partion, lle ceir angen neu rwymedigaeth ddilys i ddiogelu eich buddiannau hanfodol. 

Eich hawliau

O dan gyfraith diogelu data mae gennych hawliau i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol bresennol a ddelir amdanoch ac i wrthwynebu prosesu data sy'n achosi niwed a thrallod diangen a sylweddol. I gael copi o'r wybodaeth bersonol a gedwir gennym amdanoch neu i drafod unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon, ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu anfonwch e-bost i swyddog.gwybodaeth@archwilio.cymru. Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data trwy’r un manylion cyswllt.
http://www.archwilio.cymru/ Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich hawliau o dan gyfraith diogelu data neu os ydych am gwyno ynghylch sut rydym yn ymdrin a'ch data personol, gallwch gysylltu a'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF, neu anfonwch e-bost i casework@ico.gsi.gov.uk, neu ffoniwch 01625 545745