Chwilio am y genhedlaeth nesaf o archwilwyr proffesiynol

09 Tachwedd 2020
  • Diddordeb mewn ymgeisio i fod yn rhan o’n Rhaglen Archwilwyr dan Hyfforddiant 2015?

    Mae’r rhaglen ddwys, ond boddhaol, yma yn gofyn am chwaraewyr tîm craff, penderfynol, hunangymhellol a chreadigol i gyfrannu at ein sefydliad dynamig a blaengar. 
    Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau newydd ac ennill gwybodaeth o amrywiaeth o waith archwilio yn ymwneud â thrawstoriad o gyrff cyhoeddus. Bydd hyfforddeion yn astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol ac aelodaeth gyda Sefydliad Siartredig Cyfrifyddion yn Lloegr a Chymru [Agorir mewn ffenest newydd].
    Mae’r cynllun yn hollbwysig i sicrhau’r genhedlaeth nesaf o archwilwyr ar draws Cymru a bydd yn ein galluogi ni i barhau â’n gwaith, fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.
    Fe ddechreuodd y rhaglen yn 2007 ac ar hyn o bryd mae gennym ni 13 o hyfforddeion ar wahanol gamau o’u datblygiad. Mae un ohonynt, Caitlin Smith, yn hyfforddai yn ei blwyddyn gyntaf:

    “Mae swyddogaeth Swyddfa Archwilio Cymru o sicrhau atebolrwydd i arian cyhoeddus yn arbennig o berthnasol ar hyn o bryd ac rwy’n awyddus i gymryd mantais o’r cyfle i fod yn rhan o waith sy’n dod â chymaint o foddhad. Mae pawb wedi bod yn hynod o groesawgar ac mae rhywun o hyd yn barod i fy helpu hefo unrhyw gwestiynau.

    Cyngor Caitlin i unrhyw un â diddordeb mewn ymgeisio:

    “Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth mae astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol yn ei olygu fel y gallwch chi ddangos eich brwdfrydedd dros reoli’r cydbwysedd rhwng gwaith ac astudio.”

    Am fwy o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manyleb y swydd, y broses ddethol, neu i wneud cais ar-lein, ewch i’n porthol recriwtio [Agorir mewn ffenest newydd].