Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar reolaeth Llywodraeth Cymru o'r Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol
Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru wedi'i chynllunio i leihau'r biliau ynni ar gyfer y rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd drwy osod mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim.
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y materion a'r gwersi allweddol i'w datblygu yn y fersiwn nesaf o’r Rhaglen ac yn dilyn ein hadroddiad ar Dlodi Tanwydd a gyhoeddwyd yn 2019.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 155,000 o aelwydydd yn dlawd o ran tanwydd, gyda 144,504 o aelwydydd eraill yr amcangyfrifir eu bod mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd.
Mae'r Rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed, yn dod i ben dros y ddwy flynedd nesaf.
Wrth edrych ar unrhyw gynllun dilynol ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae gan Lywodraeth Cymru sawl mater i'w ddatrys.
Mae'r rhain yn cynnwys ailfeddwl am y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, bod yn gliriach am ddiben craidd y Rhaglen a thynhau contractau yn y dyfodol i alinio costau ac i gymell gwell gwerth am arian.