Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid

Anne-Louise Clark

Example image

Anne-Louise yn ymuno ag Archwilio Cymru yn dilyn gyrfa mewn Llywodraeth Leol yn Swydd Efrog a Glannau Humber, Caint, Llundain ac yn fwyaf diweddar, Blaenau Gwent.

Drwy gydol ei gyrfa mae Anne-Louise wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau llywodraeth leol, datblygu pobl, a sicrhau bod yr asedau ariannol a dynol yn cyd-fynd â sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion.

Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys darparu arweinyddiaeth ar draws portffolio eang o wasanaethau gan gynnwys Adnoddau Dynol/Datblygiad Sefydliadol, Cyfathrebu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Caffael a Thrawsnewid. Mae swyddogaeth elfennau digidol yn sut y bydd gwasanaethau a sefydliadau yn edrych yn y dyfodol yn ddiddordeb arbennig i Anne-Louise, yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau a chynhyrchion yn cael eu cynllunio gydag anghenion y cwsmer wrth eu calon.

Mae Anne-Louise yn dod â chyfoeth o brofiad i Archwilio Cymru a safbwynt o'r tu allan i'r sefydliad. Mae wedi dal swyddi arwain uwch, a chyn ymuno â'r sefydliad roedd yn Brif Swyddog Masnachol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roedd COVID-19 wedi golygu bod Anne-Louise a'i thîm ar flaen y gad yn ymateb y Cyngor. Mewn partneriaeth â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, arweiniodd ar ddatblygu a chreu amrywiaeth o wasanaethau newydd gan gynnwys y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu.

Mae Anne-Louise yn byw yn Swydd Gaerloyw gyda'i gŵr a'i chi achub Romania, Buddy. Mae hi'n mwynhau cerdded a cheisio tyfu llysiau. Geordie balch i’r carn, mae hi'n angerddol am botensial Cymru a'r cyfrifoldeb sydd gan Archwilio Cymru wrth gefnogi dyheadau'r wlad. Mae bod yn briod â Cymro yn golygu bod Baner Cymru yn hedfan yn uchel ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol y bêl hirgrwn. Mae hi hefyd yn falch o fod yn ymddiriedolwr yr elusen iechyd meddwl Platfform – gan weithio i wella gwasanaethau a mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol.