Gweithio ag eraill
Main navigation
Main navigation
Rydym yn aelodau o’r Fforwm Archwilio Cyhoeddus, sy’n dwyn ynghyd holl sefydliadau archwilio cyhoeddus y DU, a Choncordat Iechyd Cymru rhwng cyrff sy’n gyfrifol am archwilio, rheoleiddio ac arolygu iechyd a gofal cymdeithasol.
Cydweithio
Arolygu Cymru
Yn ogystal â’n haelodaethau, rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu eraill – fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn – er mwyn cynnal adolygiadau ar y cyd o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Lawr lwythwch y Protocol Gweithredol [PDF 378KB Agorir mewn ffenest newydd] rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol er mwyn dysgu mwy am ein rhaglenni cydweithio. Gallwch hefyd ddarllen Gweithio gyda’n gilydd i ddarparu sicrwydd [PDF 194KB Agorir mewn ffenest newydd].
Yn 2011 fe lofnodwyd Cytundeb Strategol [PDF 210KB Agorir mewn ffenest newydd] gan y pedwar corff arolygu yn amlinellu ein hymrwymiad i gydweithio fel rhan o raglen Arolygu Cymru. Am fwy o wybodaeth ar y rhaglen, darllenwch flog Arolygu Cymru [Agorir mewn ffenest newydd].
Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu
Rydym wrthi'n gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd y gwaith arfaethedig hwn ei flaenoriaethu ar frys ar ôl cyhoeddi adroddiad hynod o feirniadol ar wasanaethau mamolaeth gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd ym mis Ebrill 2019.
Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y mae trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau y darperir gwasanaethau effeithiol, diogel ac o ansawdd uchel, a bydd yn cynnwys ffocws penodol ar drefniadau o fewn y gyfarwyddiaeth lawfeddygol.
Byddwn yn cynnal gwaith maes o fewn y bwrdd iechyd yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2019, a chaiff adroddiad ar y cyd o'n canfyddiadau ei gyhoeddi yn gynnar yn ystod hydref 2019.
Gellir gweld gwybodaeth am y ffordd y mae AGIC yn prosesu'r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn ystod ein gwaith yn ein polisi preifatrwydd.
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cydweithredu ar eu cyfrifoldebau cysylltiedig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yr ydym, bellach, yn datblygu rhaglen waith cydgysylltiedig i gyflawni’r bwriadau a nodir yn y Memorandwm cyd-ddealltwriaeth [PDF 750KB yn agor mewn ffenestr newydd].
Tu allan i Gymru
Mae ein trefniadau cydweithio yn mynd y tu hwnt i Gymru. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Audit Scotland, Northern Ireland Audit Office a’r Care Quality Commission ar brosiectau ar y cyd – neu er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer da.
Mae gwaith ar y cyd o’r fath yn cynnwys gwaith paru data helaeth bob dwy flynedd er mwyn nodi unrhyw achosion posibl o dwyll a llygredd. Mae ein gwaith gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn cynnwys cyhoeddi adroddiadau uchel eu proffil ar y cyd.
Gweithio dramor
O dro i dro, mae’r Archwilydd Cyffredinol ac ein staff yn ymgymryd â gwaith gyda, neu ar ran, sefydliadau sector cyhoeddus tramor.
Mae ein gwaith tramor wedi cynnwys Arolwg o lywodraethu da ar gyfer Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Wladwriaeth yn Guernsey, helpu i ddatblygu swyddogaeth Adnoddau Dynol ac archwiliad gwerth am arian ar gyfer Gwasanaethau Archwilio’r Llywodraeth yn Ghana. Rydyn ni hefyd wedi gwneud gwaith yn Lwcsembwrg, Lithiwania ac Ynysoedd y Cayman.