Y Gymraeg

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ymrwymo i weithredu a chynnal Safonau Iaith [agorir mewn ffenest newydd]. Mae’r Safonau’n esbonio sut rydym yn defnyddio’r Gyrmaeg mewn gwahanol sefyllfaoedd a’r gweithgareddau a gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i’r cyhoedd, cyrff a archwilir, ein rhanddeiliaid a chyflogeion drwy gyfrwng y Gymraeg. 
Gellir dod o hyd i’n hysbysiadau cydymffurfio ar wefan Comisiynydd y Gymraeg:
Rydyn ni’n cyflogi Swyddog Iaith Gymraeg llawn amser, parhaol sy’n gyfrifol am hybu’r iaith o fewn ein sefydliad, sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg ac adrodd ar ein cynnydd i Gomisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn.
 
Rydyn ni’n croesawu unrhyw sylwadau ar ein darpariaeth ddwyieithog a’n hymagwedd tuag at y Gymraeg. Fe allwch gysylltu â ni drwy e-bostio post@archwilio.cymru. Os yr hoffech gwyno am ein hymagwedd at y Gymraeg, darllenwch ein taflen wybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn.

Fe allwch ddarllen mwy am ein trefniadau i gydymffurfio â’r Safonau drwy lawr lwytho ein dogfen ar drefniadau cydymffurfio [PDF 130KB agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch hefyd lawr lwytho ein hadroddiad diweddaraf ar weithrediad ein Safonau.